Cefnogir myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg gan Academi Hywel Teifi

Mae modd i chi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau - mae darpariaeth ym mhob Cyfadran.

Mae parhau i dderbyn eich haddysg trwy’r Gymraeg wedi i chi astudio trwy gyfrwng yr iaith mewn ysgol neu goleg addysg bellach yn fantais werthfawr o ran eich datblygiad personol. Y mae cyfleoedd ar gael o fewn darpariaeth y Brifysgol i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr pur. Cynigir cyrsiau gradd cyflawn trwy’r Gymraeg, gyrsiau lle mae modiwlau penodol ar gael yn y Gymraeg, ac mewn rhai pynciau mae’n bosibl dilyn dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau a ddysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae hawl gennych i gyflwyno gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. O barhau i astudio y cyfan, neu elfen, o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – gan roi eich hun mewn safle cryfach er mwyn gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas ddwyieithog sydd ohoni.

Shwmae, Ruby ydw i a fi yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr!

Merch o’r Rhondda, sydd newydd raddio mewn Llenyddiaeth Saesneg, yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe am y flwyddyn nesaf. Bydd Ruby Cradle yn gyfrifol am hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy’r Brifysgol, yn ogystal â gofalu am fuddiannau myfyrwyr Cymraeg. “Dw i’n hynod o falch o’r cyfle i amlygu pwysigrwydd treftadaeth a diwylliant Cymru i’r holl fyfyrwyr,” meddai Ruby Cradle, a gafodd ei hethol i’r swydd yn gynharach eleni.

“Mae’r diwylliant Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ers pan o’n i’n ifanc, yn mynd i’r Eisteddfod gyda fy nheulu a chynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau’r Urdd. “Fy ngobaith yw integreiddio bywyd Cymraeg traddodiadol ar draws pob agwedd o fywyd y Brifysgol trwy arddangos a dathlu ei werth, a bod yn bont rhwng y Gymraeg a’r gymuned ehangach yn y Brifysgol.” Mae Ruby yn ymuno â thîm o chwech o swyddogion llawn-amser yr Undeb, elusen sy’n gweithredu fel llais i tua 20,000 o fyfyrwyr a sydd â phresenoldeb ar ddau gampws y Brifysgol.

Llun o Ruby Cradle
Delwedd yn dangos twf o 135% mewn astudio 40+ credyd trwy gyfrwng y Gymraeg
Myfyrwyr ar draeth Abertawe
Myfyrwyr yn sefyll tu fas yr Abaty ar gampws SIngleton
delwedd yn dangos ysgolheigion rhagorol - rhai o brief ysgolheigion Cymru a bri rhyngwladol yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Myfyriwr ar y lawnt tu flaen Ty Fulton