Cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, sicrhewch eich bod wedi darllen amodau a thelerau’r Ysgoloriaeth hon a’ch bod yn astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen cwblhau'r ffurflen yn Gymraeg. Sicrhewch eich bod yn ateb pob adran yn fanwl ac yn gywir a theipiwch eich datganiad, os gwelwch yn dda. Ni chaiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried. Cedwir yr holl wybodaeth isod yn gyfrinachol, ni chaiff ei drosglwyddo y tu allan i’r adran.

Dyddiad cau: 5pm ar 13 Hydref 2023

Adran 1: Manylion personol
Adran 2: Manylion eich cwrs
Adran 3: Cymwysterau
Adran 4: Datganiad Personol

Seilir dyfarniadau’r ysgoloriaethau ar allu a theilyngdod academaidd ond hefyd ar eich gweithgarwch ynghlwm wrth y Gymraeg o fewn cyd-destun addysgol neu gymdeithasol. Byddai’n dda deall hefyd beth yw eich bwriadau i’r dyfodol wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Os ydych eisoes wedi derbyn ysgoloriaeth gan yr Academi mewn blwyddyn flaenorol, gallwch esbonio sut y defnyddioch yr ysgoloriaeth honno.

Lluniwch ddatganiad isod (dim yn hwy na 500 gair) yn esbonio eich rhesymau dros wneud cais, a pham yn eich barn chi, y dylech dderbyn ysgoloriaeth.

Diogelu Data

Drwy gyflwyno eich ymholiad, bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i greu cofnod o fewn ein system ymholiadau. Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd Ymgeiswyr sy’n rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y byddwn yn prosesu eich data personol.