Llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar Gampws Singleton

Lleolir Aelwyd Penmaen ar loriau penodol o Adeilad Penmaen.  Mae 8 gwely i bob fflat a dwy fflat ar bob llawr. Mae gan bob ystafell ensuite a cheir dewis rhwng ystafelloedd canolig, mawr a mawr iawn.

Tu allan i Adeilad Penmaen ar gampws Singleton
Ystafell wely yn Penmaen
Myfyrwyr yn cael paned yn cegin Penmaen

Sut i wneud cais am lety yn Aelwyd Penmaen?

Wrth i ti wneud cais, cofia nodi'r dewisiadau isod;

  • Campws Singleton
  • Ystafell en-suite - fflatiau o 8
  • Cytundeb 40 wythnos
  • Dy fod yn dymuno byw gyda siaradwyr Cymraeg eraill