LLETY SEREN

Exterior photograph of Seren building

BYW YN SEREN

Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Seren i ddarparu llety o safon ar gyfer ein myfyrwyr.

Yng nghanol y ddinas gyferbyn â Gorsaf Drenau Abertawe, mae Seren yn cynnig llawer mwy nag ystafelloedd gwely mewn adeilad. Hanner ffordd rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae, bydd gennych chi ddewis enfawr o gyfleusterau i'w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau. Mae gan bob ystafell wely ystafell ymolchi en suite a theledu clyfar 32". Hefyd, ceir cegin a rennir sydd â lolfa a theledu clyfar 55". Mae ystafelloedd stiwdio hefyd yn cynnwys cegin fach breifat yn yr ystafell.

Mae'r cyfleusterau ar y safle, sy'n rhan o'r ffïoedd llety, yn cynnwys campfa ar y safle ynghyd â hanner cwrt pêl-fasged, iard wedi'i thirlunio, ardal fwyta breifat a gwahanol fannau cymdeithasol a mannau astudio. Hefyd, ceir golchdy, siop Greggs, siop gyfleustra Tesco a chaffi. Mae siopau, bariau a bwytai ar eich stepen drws hefyd.

Ceir gwasanaethau bws uniongyrchol rheolaidd rhwng y llety a'r ddau gampws. Mae'r daith yn cymryd tuag 20 munud.

Mae byw yn Seren yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf a rhai sy'n dychwelyd, yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig.

YSTAFELL EN SUITE, FFLAT I 12

Mae ystafelloedd en suite yn Seren yn cynnwys ystafell wely breifat sydd ag ystafell ymolchi en suite, gan rannu cegin a lolfa gymunedol.

  • Gwely dwbl a lle storio o dan y gwely
  • Cwpwrdd dillad, bwrdd wrth ochr y gwely, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu 32"
  • Bleind blacowt, bachau i gotiau, a phegfwrdd
  • Lle i astudio, gyda desg a chadair
  • Gall maint yr ystafelloedd amrywio o 11m2 i 12m2

£155 y pen yr wythnos.

Photograph of bedroom in the 12 bed layout at Seren.

YSTAFELL EN SUITE, FFLAT I 10

Mae ystafelloedd en suite yn Seren yn cynnwys ystafell wely breifat sydd ag ystafell ymolchi en suite, gan rannu cegin a lolfa gymunedol.

  • Gwely dwbl a lle storio o dan y gwely
  • Cwpwrdd dillad, bwrdd wrth ochr y gwely, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu 32"
  • Bleind blacowt, bachau i gotiau, a phegfwrdd
  • Lle i astudio, gyda desg a chadair
  • Gall maint yr ystafelloedd amrywio o 11m2 i 12m2

£160 y pen yr wythnos.

Photograph of typical bedroom within the flats of 10 at Seren.

YSTAFELL EN SUITE, FFLAT I 8

Mae ystafelloedd en suite yn Seren yn cynnwys ystafell wely breifat sydd ag ystafell ymolchi en suite, gan rannu cegin a lolfa gymunedol.

  • Gwely dwbl a lle storio o dan y gwely
  • Cwpwrdd dillad, bwrdd wrth ochr y gwely, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu 32"
  • Bleind blacowt, bachau i gotiau, a phegfwrdd
  • Lle i astudio, gyda desg a chadair
  • Gall maint yr ystafelloedd amrywio o 11m2 i 12m2

£170 y pen yr wythnos.

Photograph of typical bedroom at Seren.

YSTAFELL STIWDIO, FFLAT I 8

Mae stiwdios yn Seren yn cynnwys gwely dwbl, cegin fach ac ystafell ymolchi en suite.

  • Cwpwrdd dillad, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu 32"
  • Bleind blacowt, bachau i gotiau, a phegfwrdd
  • Lle i astudio, gyda desg a chadair
  • Cegin breifat â hob anwytho, microdon a rhewgell-oergell
  • Gall maint yr ystafelloedd amrywio o 11m2 i 15m2

£185 y pen yr wythnos.

Photograph of typical studio, self-contained bedroom at Seren.

Ystafell en suite a fflat

Ystafell stiwdio a fflat

TAITH RITHWIR

Rhagor O Wybodaeth