Rydym yn deall y gall gwneud cais trwy'r system Glirio fod yn gyfnod gofidus i rai, ac y byddech chi eisiau sicrhau bod popeth mewn trefn cyn i chi symud i'ch cartref newydd ym mis Medi a dechrau ar eich taith gyffrous gyda ni.
Cynnig Llety Gwarantedig
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i chi. Ar gyfer myfyrwyr Clirio, rydym yn cynnig Llety Gwarantedig cyn belled â'ch bod yn gwneud cais am lety cyn Hydref y 1af.