Pam ddylech chi fynychu Digwyddiad Clirio?

Rydych chi'n haeddu cael blas ar fywyd prifysgol a gwybod eich bod chi'n gwneud y penderfyniad cywir i chi a'ch dyfodol.  Mae Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i archwilio'ch dyfodol disglair ar y campws gyda ni a chael cipolwg go iawn ar sut beth fydd fyw ac astudio yn Abertawe.

Os na allwch gyrraedd y campws, mae ein digwyddiadau ar-lein yma i'ch cefnogi chi hefyd - gan roi'r cyfle i chi ddysgu mwy am Glirio a chael yr arweiniad sydd ei angen arnoch ble bynnag yr ydych.

Digwyddiadau ar-lein

Gweminar pwrpasol am Glirio i fyfyrwyr

Bydd y weminar hon yn rhoi popeth sydd angen i chi ei wybod am Glirio a Diwrnod Canlyniadau, gan eich helpu chi i ddeall y broses a sut i baratoi’n hyderus. Byddwn ni’n trafod yr holl gyfleoedd sydd ar gael a sut ydych chi'n gallu dechrau eich dyfodol disglair yn Abertawe. 

Gweminar pwrpasol am Glirio i rieni a gwarcheidwaid

Gall Clirio fod yn gyfnod heriol i’ch plentyn, ond hefyd i chi fel eu rieni a gwarcheidwaid. Mae’r weminar hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddeall y broses Clirio yn llawn. Waeth beth fo’r sefyllfa, gall Clirio fod yn gyfle i sicrhau lle prifysgol sy’n iawn i’ch plentyn.

Gweminar pwrpasol am Glirio i athrawon

Bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall sut i arwain a thawelu meddyliau myfyrwyr, gan dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael trwy Glirio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gefnogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer Clirio a mynd ati mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol gyda hyder.

Gwybodaeth allweddol ar gyfer Clirio