Beth yw clirio?

Clirio yw eich cyfle i sicrhau lle mewn prifysgol y tu allan i'r prif gylchred ymgeisio. Mae nifer o resymau y gall fyfyrwyr dewis y llwybr hwn, er enghraifft:

  • Rydych chi wedi newid eich meddwl am y brifysgol rydych chi eisiau astudio ynddi
  • Rydych chi eisiau newid i gwrs arall
  • Nid ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech yn eu disgwyl
  • Rydych chi wedi cyflawni graddau gwell na'r disgwyl
  • Dydych chi ddim wedi gwneud cais i astudio yn unrhyw le ond wedi penderfynu yr hoffech chi fynd i'r brifysgol ym mis Medi.

Beth bynnag yw'r rheswm, gall Clirio fod yn gyfle i sicrhau lle prifysgol sy'n hollol iawn i chi! Agorwch ddrws i ddyfodol disglair ym Mhrifysgol Abertawe. 

Grwp o myfyrwyr ar y traeth.

Os ydych chi am ddod i Brifysgol Abertawe ond eisoes yn dal lle mewn prifysgol arall, gallwch wrthod eich lle yn eich Hwb UCAS ac ymuno â'r broses Glirio.

Darganfyddwch sut mae'n gweithio yn ein Canllaw ar Sut i Wrthod eich Lle ac Ymuno â Chlirio.

Sut i wrthod eich lle a dod i Abertawe drwy Clirio
Myfyrwyr yn Mwmbwls.

Gall hyn ddibynnu ar bob sefydliad ond mae Clirio yn Abertawe yn gallu gorffen mor hwyr a mis Hydref os oes dal lle ar y cyrsiau.

Os na gawsoch chi na derbyn unrhyw gynigion, cysylltwch â'ch prifysgol o ddewis gan fod rhai yn cymryd ymgeiswyr hwyr.

Os ydych chi'n ansicr cysylltwch â Thîm Derbyn Prifysgol Abertawe i drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â'r Tîm Clirio
Person cynnes a chroesawgar ar y ffon.

Cyn ffonio'r llinell gymmorth Glirio gwnewch yn siŵr eich bod yn barod oherwydd efallai y gofynnir i chi am eich gwaith ysgol neu'ch profiad. Bydd rhai cynghorwyr yn gwneud penderfyniad ar sail eich graddau tra bydd eraill yn gofyn cwestiynau i asesu eich diddordeb yn eich dewis gwrs.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol paratoi rhai nodiadau ar pam rydych am ymuno â’r brifysgol a’r hyn sydd o ddiddordeb i chi yn y cwrs yr ydych yn gwneud cais amdano.

Clywch y diweddariadau Clirio yn gyntaf

Derbyniwch gefnogaeth syml, cam-wrth-gam.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau