Ydych chi'n mynd trwy'r broses Clirio? Ydych chi'n pendroni sut fydd hynny'n effeithio ar eich cyllid myfyrwyr? Darllenwch ein cyngor isod i fyfyrwyr o Gymru a Lloegr sy'n gwneud cais ar gyfer astudio yn 2023.

Sut mae newid fy nghwrs trwy Gyllid Myfyrwyr?

Os byddwch chi'n newid eich cwrs neu brifysgol trwy Glirio yna bydd angen i chi ddiweddaru'ch cais ar-lein.

I wneud hyn, mae angen i chi fewngofnodi yn eich cyfrif ar-lein gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru, clicio ar 'Fy Nghyfrif' yna 'Newid fy nghais' a diweddaru'r manylion teitl cwrs a phrifysgol. Cofiwch newid eich cyfeiriad adeg tymor os yw hwn hefyd wedi newid.

Os byddwch chi'n newid eich cwrs ar ôl ei gychwyn, yna bydd angen i Brifysgol Abertawe gysylltu â Chyllid Myfyrwyr ar eich rhan. Cysylltwch â'r tîm Cyllid Myfyrwyr i drefnu hyn.

Nid wyf wedi derbyn hysbysiad o fy Nghyllid Myfyrwyr newydd

Ydw i'n dal i allu gofrestru? Sut ydw i'n hawlio fy nghostau byw?

Os ydych chi wedi cyflwyno eich manylion newid cwrs/prifysgol i gyllid myfyrwyr ond heb dderbyn hysbysiad eto am y newid hwn, mae dal modd i chi gofrestru a derbyn y taliad benthyciad cynhaliaeth cyntaf. Y cyfan sydd angen i chi wneud yw:-

  1. Sefydlu Debyd Uniongyrchol wrth gofrestru ar-lein. Bydd hyn yn gohirio'ch taliad ffioedd dysgu tan 1 Tachwedd a fydd yn caniatáu digon o amser i'ch cyllid gael ei ailasesu'n llawn
  2. Ar ôl i chi gofrestru, mae angen i chi anfon e-bost at studentfinance@swansea.ac.uk gyda'ch SSN (Rhif Cymorth i Fyfyrwyr) neu CRN (Rhif Cyfeirnod Cwsmer) a'ch rhif myfyriwr Prifysgol. Bydd hyn yn galluogi'r tîm cyllid myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe i gadarnhau eich cofrestriad gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn rhyddhau eich taliad cynhaliaeth gyntaf (caniatewch 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich taliad o'r dyddiad y cofrestrwch ac anfonwch yr e-bost)
  3. Byddwch yn ymwybodol o'r dyddiad Debyd Uniongyrchol os oes unrhyw oedi gyda'ch hysbysiad newydd. Cofiwch adolygu'ch cyfrif e-bost myfyriwr yn rheolaidd ac ateb unrhyw nodiadau atgoffa gan yr adran Gyllid am eich Ffioedd Dysgu ac egluro bod eich cyllid yn cael ei oedi. Bydd hyn yn osgoi cymryd unrhyw daliadau diangen o'ch cyfrif.
  4. Os oes angen cyngor arnoch chi gyda'ch cyllid myfyriwr cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol ar ebost money.campuslife@swansea.ac.uk neu ewch i MyUni.

*Os nad ydych wedi sicrhau cyllid, rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn cofrestru nes bod hyn wedi'i gadarnhau oherwydd os byddwch yn cofrestru byddwch yn atebol i dalu ffioedd ac efallai y bydd eich cymhwysedd cyllid yn y dyfodol yn cael ei effeithio

Beth os ydw i'n colli'r dyddiad cau?

Peidiwch â phoeni os ydych chi'n colli'r dyddiad cau, mae hyd at 9 mis o ddechrau'r tymor academaidd gyda chi i wneud cais am gyllid myfyrwyr.

Heb wneud cais am Gyllid Myfyrwyr eto?

5 allan o 5 seren
... Mae bywyd yn Abertawe hefyd yn llawer rhatach na lle rwy'n byw yn Lloegr, gan ganiatáu i mi fwynhau fy hun yn fwy, gan ganolbwyntio mwy ar fy mhrofiad a llai ar y gost ariannol.

Cofiwch!

Unwaith y bydd eich benthyciad wedi’i gadarnhau, peidiwch ag anghofio cyflwyno eich Telerau ac Amodau Ar-lein (OTC) drwy eich cyfrif ar-lein gyda Llofnod Electronig (E-lofnod), neu ni fyddwch yn cael unrhyw daliad ar ddechrau’r tymor!

Cofiwch hefyd fod y Benthyciad Cynhaliaeth ac unrhyw Grantiau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ond bod eich Benthyciad Ffi Dysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol.