Mae UCAS Extra yn wasanaeth am ddim sy'n caniatáu i chi barhau i wneud ceisiadau am gyrsiau addysgu uwch, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio'ch pum dewis gwreiddiol eisoes, ar yr amod eich bod wedi gwneud cais drwy UCAS ac nad ydych yn dal unrhyw gynigion nac yn aros am benderfyniad ar unrhyw un o'ch pum cais gwreiddiol.

Gallwch wneud cais drwy UCAS Extra o 28 Chwefror tan 4 Gorffennaf eleni. Os nad ydych wedi cael unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dal i allu gwneud cais am le yn y brifysgol drwy glirio.

Sut mae UCAS Extra yn gweithio?

Does dim rhaid i chi wneud cais penodol i ddefnyddio UCAS Extra; os ydych yn gymwys, bydd y botwm "Add Extra Choice" i'w weld yn awtomatig yn adran "Choices" yn eich Hwb UCAS.

Pwyntiau Allweddol:

  • Does dim uchafswm i nifer y cyrsiau y gallwch wneud cais amdanynt drwy Extra.
  • Does dim modd gwneud cais am fwy nag un ar y tro, felly fyddwch chi ddim yn gallu nodi dewis cyntaf a chynnig yswiriant fel yn y rownd gyntaf o geisiadau.
  • Os ydych yn derbyn cynnig drwy UCAS Extra, disgwylir i chi dderbyn eich lle yno a fyddwch chi ddim yn gymwys am glirio, oni bai i chi fethu bodloni gofynion graddau'r cynnig.
  • Os nad ydych wedi clywed gan gwrs ar ôl gwneud cais amdano drwy Extra, a hoffech wneud cais am gwrs arall, gallwch dynnu cais drwy Extra yn ôl unrhyw bryd, ond mae'n werth cysylltu â'r brifysgol neu'r coleg ei hun i wneud yn siŵr nad oes cynnig ar y ffordd i chi cyn gwneud hynny.

Pwy sy'n gallu defnyddio Extra?

Gallwch ddefnyddio Extra hyd yn oed os gwnaethoch gais am le yn y brifysgol drwy UCAS yn wreiddiol, os ydych wedi defnyddio'ch holl geisiadau ac nid oes unrhyw gynigion gennych. Does dim gwahaniaeth os na chawsoch unrhyw gynigion gan eich pum dewis cyntaf, neu os na dderbynioch unrhyw un o'r cynigion hyn - os nad ydych wedi sicrhau lle ar unrhyw gyrsiau, ac os nad ydych yn aros i glywed gan unrhyw sefydliad rydych wedi gwneud cais iddo, gallwch wneud cais drwy UCAS Extra.

Ymgeiswyr Meddygaeth (H3)

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth i Ysgolion Meddygol ddechrau gwneud penderfyniadau yn dilyn cyfweliadau, rydym yn cael ymholiadau gan fyfyrwyr meddygol ynghylch sut y gallai ein Llwybrau at Feddygaeth eu helpu i gyflawni eu dyheadau i ddod yn Feddyg yn y tymor hir.

Sut i wneud cais drwy UCAS Extra

Rydych yn ychwanegu dewis Extra at eich Hwb UCAS. Os ydych yn gymwys, byddwch yn gweld yr opsiwn 'Add an Extra choice' yn yr adran 'Your choices'. Bydd angen i chi glicio ar y ddolen hon a nodi manylion y brifysgol a'r cwrs - yna bydd UCAS yn rhannu manylion eich cais â'r brifysgol honno.

Sut mae ychwanegu rhagor o ddewisiadau?

Mae'n hawdd ychwanegu dewis arall gan ddefnyddio Extra:

  • Yn gyntaf, mae angen i chi ddefnyddio offeryn chwilio UCAS i ddod o hyd i gyrsiau sydd â lleoedd ar gael yn Extra. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio offeryn chwilio UCAS - cliciwch ar 'Show courses in Extra' ar ochr chwith y sgrîn i weld rhestr.
  • Cysylltwch â'r brifysgol neu'r coleg i holi a ydynt yn gallu eich ystyried.
  • Ychwanegwch y manylion yn eich Hwb UCAS (os ydych yn gwneud cais am bwnc gwahanol, efallai byddai'n syniad da anfon datganiad personol newydd at y brifysgol neu'r coleg i gryfhau eich cais).

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Ar ôl i chi ychwanegu dewisiadau drwy Extra, bydd y brifysgol neu'r coleg rydych chi wedi gwneud cais iddo yn ystyried eich cais.
  • Ar ôl 21 o ddiwrnodau, gallwch ddewis naill ai barhau i aros am benderfyniad gan y brifysgol neu'r coleg neu ei ddileu a gwneud dewis gwahanol yn Extra.
  • Os ydych yn cael cynnig, dylech ei ateb gan ddefnyddio UCAS. Os byddwch yn derbyn y cynnig, bydd gennych le - yn amodol ar fodloni unrhyw amodau.
  • Os ydych wedi cael cynnig ond nid ydych am ei dderbyn, gallwch ei wrthod gan ddefnyddio UCAS a dechrau chwilio drwy Extra eto.
  • Os nad oes lle yn cael ei gynnig i chi, gallwch ddechrau proses Extra eto a chadw i fynd nes i chi gael lle neu nes i'r broses gau ar 4 Gorffennaf.

Faint o brifysgolion/cyrsiau y gallwch wneud cais iddynt?

Yn eich cais cychwynnol, gallwch wneud ceisiadau i bum prifysgol/cwrs (os hoffech wneud cais am ddau gwrs yn yr un brifysgol, bydd hyn yn cyfrif fel dau o'ch pum dewis). Pan fyddwch wedi clywed gan bob un o'r rhain, gallwch nodi dewis cadarn ac yswiriant, gan wrthod eich cyrsiau eraill.

Cyrsiau Israddedig

350+ o gyrsiau ar gael

dyn ar gliniadur

Oes modd newid y cwrs rydych wedi'i ddewis drwy UCAS Extra?

Oes, ond allwch chi ddim gwneud cais am fwy nag un cwrs ar y pryd drwy Extra, felly peidiwch â rhuthro i wneud cais am y cwrs cyntaf sydd o ddiddordeb i chi - cymerwch amser i gael mwy o wybodaeth am y cwrs a'r brifysgol.

Does dim uchafswm i nifer y cyrsiau y gallwch wneud cais amdanynt drwy Extra, ond allwch chi ddim gwneud cais am fwy nag un ar y tro, felly fyddwch chi ddim yn gallu nodi dewis cyntaf a chynnig yswiriant fel yn y rownd gyntaf o geisiadau.

Os nad ydych wedi clywed gan gwrs ar ôl gwneud cais amdano drwy Extra, a hoffech wneud cais am un arall, gallwch dynnu cais Extra yn ôl unrhyw bryd, ond mae'n werth cysylltu â'r brifysgol neu'r coleg yn gyntaf i wneud yn siŵr nad oes cais ar y ffordd i chi.

Oes modd mynd drwy glirio hyd yn oed os ydych wedi cael cynnig drwy UCAS Extra?

Os ydych yn derbyn cynnig drwy Extra, rydych yn ymrwymo i'r brifysgol honno neu'r coleg hwnnw a bydd gennych le yn y sefydliad hwnnw os ydych yn bodloni amodau ei gynnig. Os nad ydych yn bodloni amodau ei gynnig, byddwch yn gymwys ar gyfer Clirio yn awtomatig.

Ni allwch wneud cais drwy Glirio oni bai nad oes gennych unrhyw gynigion, felly, byddai rhaid i chi ofyn am gael eich rhyddhau o'ch dewis cadarn cyn gallu gwneud cais drwy Glirio. Ond gall hyn gymryd hyd at 10 niwrnod ac ni fydd modd i chi newid eich meddwl, felly mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn ymrwymo.

Os nad ydych yn sicrhau lle drwy Extra, peidiwch â phoeni - bydd lleoedd ar gael drwy'r broses Glirio sy'n agor ar y 5ed o Orffennaf.