Amdanom Ni

Gyda dros 50 mlynedd o brofiad o roi arweiniad addysg uwch i ysgolion a cholegau'r DU, mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn un o'r rhai mwyaf rhagweithiol yn y DU o ran helpu i baratoi darpar fyfyrwyr ar gyfer heriau, realiti a manteision bywyd prifysgol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgymorth i ysbrydoli eich myfyrwyr. Gellir trefnu llawer ohonynt i gyd-fynd ag amserlenni ysgol neu goleg (gan gynnwys sesiynau gyda'r hwyr) ac fe'u darperir yn rhad ac am ddim.

Gweminar Pwrpasol am Glirio i Athrawon

Gall Clirio fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr. Bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall sut i arwain a thawelu meddyliau myfyrwyr, gan dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael trwy Glirio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gefnogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer Clirio a mynd ati mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol gyda hyder.

Gweminar

02/07/2026

16:30 - 17:30 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Fyfyrwyr yn astudio ar y iPad

Gweithdai a Diwrnodau Rhagflas

We offer a range of talks, workshops and taster days providing support for students pre and post application. These sessions can be delivered in English or Welsh, either virtually, at your school or college, or as part of a Taster Day at Swansea University. During our on-campus Taster Days, you'll be welcomed by academic staff and Student Ambassadors who will guide you through interactive subject sessions and a tour of our campus and facilities.

Gwnewch Ymholiad
Myfyrwyr yn ymarfer arbrofion yn y labordy addysgu

Dosbarthiadau meistr

Mae ein Dosbarthiadau Meistr rhithwir yn ffordd berffaith o gyflwyno meysydd pwnc newydd i'ch myfyrwyr, archwilio eu hopsiynau a chael ymdeimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol mewn gwirionedd.

Mae ein hacademyddion o'r radd flaenaf wedi cyflwyno sesiynau ar draws ystod o feysydd pwnc o archwilio Modelu a Deallusrwydd Artiffisial mewn Peirianneg Sifil, i Seicoleg Gamblo a Sut i Baratoi ar gyfer Cyfweliad ar gyfer Cwrs Clinigol. Rydym yn cynnal dosbarthiadau meistr newydd bob blwyddyn a gallwch hefyd wylio recordiadau o sesiynau blaenorol.

Cyfres o Ddosbarthiadau Meistr
Myfyriwr yn gwylio sgrin gliniadur

Ysgol Haf

Mae ein hysgol haf gyffrous, a gynhelir bob mis Gorffennaf, yn cynnig profiad ymarferol unigryw wedi'i drefnu ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 sy'n ystyried astudio gradd yn ein pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Meddygaeth a Mathemateg (STEMM).

Mae ein rhaglen breswyl tri diwrnod (codir tâl) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio ein hamrywiaeth o gyrsiau STEMM, byw ar gampws prifysgol go iawn, ac ennill profiad gwerthfawr i'w helpu i benderfynu ai gradd STEMM yw'r cam nesaf.

Ysgol Haf STEMM
Grŵp o ddisgyblion ysgol haf y tu allan i adeilad Canolog Peirianneg

Dewch i gwrdd â ni

Mae ein tîm yn teithio hyd a lled y Deyrnas Unedig i gynrychioli'r Brifysgol mewn arddangosfeydd addysg uwch gan gynnwys UCAS, UK Uni Search a WhatUni. Mae'r arddangosfeydd hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr siarad â chynrychiolydd am eu dewisiadau addysg uwch.

Gallwch hefyd gwrdd â'r tîm yn ein Diwrnodau Agored, a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Ar Ddiwrnod Agored, gallwch chi a'ch myfyrwyr archwilio ein campysau hardd, cwrdd â'n staff addysgu sydd o'r radd flaenaf, archwilio ein cyfleusterau addysgu, opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am fywyd myfyrwyr gan ein llysgenhadon myfyrwyr cyfeillgar.