Darganfyddwch ein triciau a’n cyngor

Yma yn Swyddfa Recriwtio Prifysgol Abertawe, rydym o hyd yn chwilio am wybodaeth newydd i rannu gydag ysgolion er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda’r broses Addysg Uwch yn y ffordd gorau posib. Mae ein blogiau yn ffordd wych o ddarganfod y newyddion diweddaraf o Brifysgol Abertawe, gyda chymorth i chi ar arwain eich myfyrwyr trwy’r broses UCAS.

Cadwch lygaid am flogiau misol o’n Swyddogion Recriwtio Myfyrwyr Israddol, a chysylltwch â ni os hoffech chi drefnu sesiynau arbennig addysg uwch ar gyfer eich myfyrwyr ar y pynciau a soniwyd amdano.

Staff ar ford cynhadledd

Athrawon, cydweithwyr gyrfaoedd a staff cymorth: Teachers Guide to University

Mae'r canllaw i athrawon wedi cael ei lunio gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA – er mwyn cefnogi’r cyfarwyddyd ar brifysgolion a ddarperir mewn ysgolion uwchradd a cholegau.  

Mae mwy na 60 o gydweithwyr wedi cyflwyno cynnwys golygyddol,  gan gynnwys prifysgolion ledled y DU (megis Abertawe!). Mae ein pynciau'n cynnwys sut i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau ar brifysgolion, digwyddiadau mewn prifysgolion, ehangu cyfranogiad a mynediad teg, ceisiadau UCAS (gan gynnwys ysgrifennu geirdaon ysgol) a llawer mwy.  

Cewch eich copi AM DDIM nawr (ni fydd angen cofrestru)

Front page of brochure

Canllaw Myfyrwyr i’r Brifysgol 2023 UniTasterDays

Lluniwyd Canllaw Myfyrwyr i’r Brifysgol gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA, i gefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwych am fynd i’r brifysgol. Mae cynnwys golygyddol wedi’i ddarparu gan fwy na 35 o arbenigwyr prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.

Mae’r canllaw hwn wedi’i rannu’n  adrannau a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr gyda chamau gwahanol yn eu teithiau penderfyniadau addysg uwch, gan gynnwys:  rhesymau dros ystyried mynd i’r brifysgol, cyngor wrth ddewis prifysgol, cymorth gyda ffïoedd a chyllid, help wrth gyflwyno ceisiadau, yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod eu cais a phan fyddant yn dechrau eu cwrs.

Cewch eich copi AM DDIM nawr (ni fydd angen cofrestru)

Front of Brochure