Myfyrwyr yn mynd â hunlun ger y traeth ar Gampws y Bae

Cliwless am Glirio? Rydyn ni yma i helpu.

Gyda dros 38,000 o fyfyrwyr yn defnyddio’r system hwn i dderbyn eu lle Prifysgol yn 2023, mae deall y broses Clirio yn hanfodol wrth gynorthwyo a chysuro myfyrwyr ar ddiwrnod canlyniadau. Wrth gadw hwn mewn meddwl, rydym wedi dewis ein 5 prif darn o adborth ar lywio’r rhan hwn o’r siwrne UCAS.

1. Mae modd ymchwilio cyn diwrnod canlyniadau:

Mae Clirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2024, ac er nad oes modd i fyfyrwyr trafod cynigion Clirio cyn iddynt dderbyn eu graddau, gellir dechrau archwilio pa gyrsiau sy’n cynnig llefydd ar chwilotydd UCAS. Pan mae graddau yn cael eu rhyddhau, bydd Clirio ar gael drwy UCAS i fyfyrwyr sydd ddim yn derbyn cynigion, ddim yn cytuno i unrhyw gynigion neu sydd ddim yn llwyddo i gwrdd â meini prawf eu cynigion.

2. Gwybodaeth Clirio i helpu myfyrwyr i gadw cyswllt:

Bydd Prifysgolion yn annog myfyrwyr i gofrestru am gylchlythyr clirio, i dderbyn gwybodaeth am gyngor, arweiniad a gwagleoedd i’w cadw nhw yn ymwybodol. Gall eich myfyrwyr cofrestru i dderbyn ein diweddariadau ar ein gwefan.

3. Cysylltu â Phrifysgolion yn Uniongyrchol:

Unwaith mae eich myfyrwyr wedi derbyn eu canlyniadau, mae rhaid iddynt siarad yn uniongyrchol i brifysgolion i drafod opsiynau cyrsiau Clirio ac i dderbyn cynigion anffurfiol. Mae yna nawr sawl ffordd i wneud hwn gydag Abertawe, gan gynnwys ffon, negeseuo ar Facebook neu WhatsApp, neu ddanfon e-bost.

4. Chwilio cyn Clirio:

Dyna’r motto! Mae dewis cwrs trwy Glirio yn gallu bod yn benderfyniad brawychus, sy’n arwain at fyfyrwyr yn cael panig a derbyn y lle cyntaf a chynigwyd iddynt. Dylent gael eu hadborthi i bwyllo, gwneud yr ymchwil a darganfod os yw bywyd myfyrwyr, llety a lleoliad y brifysgol yn addas iddynt. Os maen nhw’n astudio yna am o leiaf 3 mlynedd, mae angen iddynt sicrhau bod y manylion yma hefyd yn cyd-fynd a’u meini prawf eu hunain.  

5. Cwblhau’r broses ar-lein:

Pan mae gan fyfyrwyr caniatâd gan y brifysgol a ddewiswyd, gellir adio’r dewis Clirio drwy system UCAS. Un dewis sy’n gallu cael ei adio ar y tro, ond os yw’r Brifysgol wedyn yn dewis i beidio rhoi lle i’r myfyriwr, gellir adio dewis arall. Unwaith mae dewis clirio wedi’u cadarnhau gan brifysgol, mae hwn yn cael ei ystyried yn derfynol a bydd yn ymddangos fel derbyniad yn adran ‘Choices’ UCAS.

Os oes gennych gwestiynau pellach am y broses Clirio, gwelwch ein tudalen Clirio neu cysylltwch â’r Tîm Recriwtio Myfyrwyr Israddol.