Myfyriwr mewn diwrnod agored ôl-raddedig

Mae arddangosfeydd addysg uwch yn ffordd wych o gefnogi eich myfyrwyr gyda'u camau nesaf, gan y byddant yn dod o hyd i gynrychiolwyr prifysgolion, gwybodaeth am brentisiaethau a chymorth gyrfa i gyd o dan un to.

P'un a ydych yn chwilio am syniadau i baratoi eich myfyrwyr ar gyfer eich ffair yrfaoedd fewnol, neu hoffech gael cyngor ynghylch yr hyn y dylid ei ddisgwyl mewn digwyddiad mwy a gynhelir gan UCAS, UK Uni Search neu WhatUniversity Live, bydd yr wybodaeth ganlynol yn helpu eich myfyrwyr i feithrin y meddylfryd cywir i gymryd rhan.

Yr hyn sy'n dda

    ✅ Ymchwilio i gyrsiau a phrifysgolion ymlaen llaw

Gyda chynifer o opsiynau yn yr un ystafell, gall fod yn dalcen caled i fyfyrwyr benderfynu pa stondin i ymweld â hi'n gyntaf. Os oes modd iddynt dreulio ychydig o amser cyn y ffair i ymchwilio i gyrsiau ymchwil a phrifysgolion posib sy'n cynnig y rhain, gall eu helpu i gyfyngu ar eu dewisiadau ar y diwrnod. Gall cwisiau gyrfaoedd fod yn fan cychwyn gwych os nad yw myfyrwyr yn gwybod pa lwybr i'w ddilyn - mae gan UCAS adnodd ar-lein at y diben hwn a gynigir hefyd yn ffeiriau wyneb yn wyneb y gwasanaeth.

    ✅ Gofyn cwestiynau am y cwrs

Rydym yn eich cynghori i atgoffa eich myfyrwyr fod arddangosfeydd yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau dyfnach am y cwrs ei hun – gall paratoi'r rhain eu hatal rhag drysu pan fyddant o flaen stondin. O ffiniau graddau i ddewis modiwlau a chyfleoedd allgyrsiol, bydd cynrychiolwyr prifysgolion yn gallu darparu pob math o wybodaeth a all effeithio ar ddewisiadau myfyrwyr yn y pen draw.

    ✅ Darganfod sut brofiad byddai byw mewn prifysgol

Dylai edrych ar yr hyn y gall prifysgol ei gynnig i fyfyriwr y tu allan i gynnwys y cwrs fod yn flaenoriaeth fawr mewn arddangosfeydd. Dylai lleoliad a threfn y brifysgol fod yn bwysig i fyfyrwyr gan y byddant yn treulio rhwng 3 a 5 mlynedd yn yr ardal. Dylent hefyd ofyn am ddewisiadau llety yn ystod y flwyddyn gyntaf, yn ogystal â'r chwaraeon a'r cymdeithasau sydd ar gael.

 

Yr hyn sy'n wael

    ❌ Casglu prosbectysau o bob stondin

Mae myfyrwyr yn hoffi cael nwyddau am ddim ac rydym yn deall hynny! Nid oes dim byd gwell na phin ysgrifennu am ddim. Fodd bynnag, bydd ymweld â phob stondin a llenwi bagiau â deunyddiau pob darparwr yn debygol o fod yn drwm iawn ac yn rhoi gormod o ddewisiadau iddynt pan fyddant yn mynd adref. Bydd ymchwilio i brifysgolion a chyflogwyr ymlaen llaw yn eu helpu i gyfyngu ar eu hopsiynau.

    ❌ Gafael mewn prosbectws a ffoi

Mae ffeiriau arddangos yn gyfle gwych i siarad â phobl sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y prifysgolion neu'r busnesau y mae'r myfyrwyr yn eu hystyried. Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth fewnol am y lle, felly dylai myfyrwyr fanteisio ar hyn yn bendant. Yn enwedig os oes gan brifysgolion fyfyrwyr llysgennad yn eu stondinau.

    ❌ Anghofio cymryd camau dilynol

Ar ôl i fyfyrwyr gasglu gwybodaeth o ffair, mae'n bwysig cymryd camau dilynol pan fyddant yn mynd adref. Bydd prosbectysau prifysgolion yn aml yn hysbysebu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi dolenni i gadw lle mewn diwrnodau agored ar-lein – mae myfyrwyr yn aml yn dweud bod ymweliad personol yn rhoi'r olwg orau ar opsiwn addysg uwch.

Os hoffech wybod pa ffeiriau y bydd Prifysgol Abertawe'n mynd iddynt, ewch i'n tudalen digwyddiadau addysg uwch.