Sgyrsiau, Gweithdai a Diwrnodau Rhagflas

Rydym yn cynnig amrywiaeth o sgyrsiau a gweithdai sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr cyn iddynt wneud cais ac ar ôl hynny, y gellir eu cyflwyno yn eich sefydliad neu eu cynnwys mewn diwrnod rhagflas yn y Brifysgol. Gellir trefnu'r sesiynau hyn yn unol â'ch amserlenni (gan gynnwys digwyddiadau gyda'r hwyr) a chânt eu cynnig yn rhad ac am ddim. Gellir cynnal ein sgyrsiau a'n gweithdai rhithwir cyfredol fel digwyddiadau byw neu fel cynnwys wedi'i recordio.

Mewn diwrnod rhagflas, byddwch yn cael eich arwain gan staff a myfyrwyr llysgennad ac yn cael cynnig sesiwn ryngweithiol gydag un o'n darlithwyr. Gellir hefyd mynd ar daith o amgylch y campws i weld ein cyfleusterau ar ôl hynny.