Myfyriwr mewn llety

Oes gan eich myfyrwyr cynigion i astudio yn Abertawe? Llongyfarchiadau! Cam nesaf yn eu siwrne bydd dewis ble hoffant nhw fyw, felly mae’n amser siarad â nhw am eu hopsiynau llety.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig llety gwarantedig i unrhyw fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n ceisio am eu cwrs a’u llety erbyn 30 Mehefin 2024. Os ydym yn dewis cadarn neu yswiriant, gall ein hymgeiswyr fod yn sicr bydd ganddynt rywle i fyw os ydynt yn penderfynu byw tu allan i’w cartref. Bydd ymgeiswyr yn derbyn rhif myfyriwr gyda’u cynnig, ac mae hwn yn gadael iddynt gychwyn y broses. Rydym yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu hopsiynau cyn gynted a bo gyda nhw'r rhif hwn, achos mae system o gyntaf i’r felin gyda dyrannu llety.

Rydym yn Brifysgol Campws, sy’n meddwl mai ein dau safle wedi’i strwythuro fel pentrefi i fyfyrwyr. Mae popeth o neuaddau darlithoedd, bwytai, siopau a gwasanaethau gofal iechyd o fewn rhai munudau o’r llety, sy’n dod a theimlad cymuned i’r Brifysgol. Mae Campws Singleton siwrne 5 munud mewn car neu fws o ganol y ddinas ac mae gwasanaethau bws aml, neu dro 30 munud ar hyd y promenâd. Mae’n eistedd yng nghanol parc gwyrdd hardd ac ar draws yr heol o’r traeth, gan roi'r orau o ddau fyd i’r rhai sy’n dwlu ar natur sydd eisiau hefyd profi bywyd dinas. Mae llety gydag ystafell ymolchi a rennir yn dechrau am £142, ac ystafelloedd en suite o £147 gyda’r opsiwn o hunanarlwyo neu arlwyo. Gellir myfyrwyr hefyd ymgeisio am lety un-rhyw, aeddfed, di-alcohol neu lety tawel. 

Agorwyd Campws y Bae yn 2015 ac mae hefyd ar yr arfordir, gyda thwyni tywod preifat yn cynnig lle tawel i astudio neu gymdeithasu i’n myfyrwyr. Mae’r Bae wedi’i lleoli 10 munud o ganol y ddinas gyda bws yn rhedeg pob 8 munud i gadw cyswllt y ddau gampws. Er mai hwn yw lleiaf y ddau gampws, mae sawl gweithgaredd chwaraeon a chymdeithasol yn digwydd yma, sy’n cynnig awyrgylch a chymuned gyfeillgar. Mae gan bob ystafell en suite yn dechrau o £135 gydag opsiynau premiwm, ystafell i ddau a fflatiau preifat.

Beth bynnag yw dewis eich myfyrwyr, mae ein Gwasanaeth Llety a thîm MyUniHub wrth law i’w gefnogi, gyda diogelwch 24 awr i sicrhau bod ein dau gampws yn llefydd cysurus i fyw ac astudio.