Mae UCAS wedi gwneud pethau’n haws i chi newid prifysgol ar ôl derbyn eich canlyniadau. Yn hytrach na chysylltu gyda’ch Prifysgol neu Goleg ac aros iddyn nhw eich rhyddhau chi mewn i’r broses Clirio, rydych chi'n gallu gwneud hyn eich hunain yn eich cyfrif UCAS (Hwb UCAS).
- Mewngofnodwch: Mewngofnodwch i Hwb UCAS
- Dewiswch "gwrthod": Cliciwch ar y botwm ‘Gwrthod fy lle’ (Decline my place) ar eich hafan - byddwch yn cael eich tywys i dudalen sy’n esbonio’r broses ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn siŵr eich bod eisiau cael eich rhyddhau.
- Cyfeiriwch eich hun: Dyna ni! Unwaith mae hyn wedi cwblhau bydd eich statws ar UCAS yn dangos eich bod yn y system Glirio. Bydd modd i chi nawr - drwy Hwb UCAS - gyfeirio eich hun at y cwrs yn Abertawe sydd wedi cynnig lle i chi yn ystod Clirio. Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi’n ymuno â ni drwy Clirio, mae dal modd i chi wneud cais am lety ar y campws.