Yn Abertawe, rydyn ni'n gwybod y gall Clirio fod yn amser heriol felly rydyn ni eisiau gwneud y broses mor hawdd â phosibl i chi sicrhau eich lle. Gallwch wneud cais ar-lein neu ar y ffôn.
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt yn ein Cwestiynau Cyffredin neu yn ein Canllaw Clirio, cysylltwch â'n tîm Clirio yn y ffordd rydych chi'n ei ffafrio - gallwch ein ffonio neu anfon neges trwy ein sgwrs fyw, Messenger Facebook neu WhatsApp.
Diogelu Data
Drwy gyflwyno eich ymholiad rydych yn cydsynio i'ch data gael ei gadw gan Brifysgol Abertawe. Bydd eich data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion delio â'ch ymholiad, ac anfon gwybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti. Os hoffech dynnu eich hun o gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP neu e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk