Byw yn Abertawe

Mae tîm Arian@BywydCampws yn deall y bydd costau byw cynyddol yn peri pryder i lawer o’n myfyrwyr eleni. Mae gennym ni wybodaeth fanwl a chyfredol ar gael i fyfyrwyr ar ein tudalen gwe Costau Byw, a gall myfyrwyr gael mynediad i ystod gynhwysfawr o adnoddau cyllidebu, cyngor ac awgrymiadau arbed arian, gan gynnwys gwybodaeth am becynnau cymorth biliau ynni’r llywodraeth, ar ein My Tudalennau'r Brifysgol.

Os bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn wynebu caledi oherwydd amgylchiadau annisgwyl, efallai bydd modd iddynt gyflwyno cais am ein cronfeydd caledi. Disgwylir y bydd myfyrwyr wedi blaenoriaethu eu costau hanfodol cyn cyflwyno cais. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we ynghylch Cronfeydd Caledi

Y cyngor pwysicaf y gallwn ei gynnig yw peidiwch â chael trafferth yn dawel: Gall cyfathrebu cynnar helpu i atal problemau rhag gwaethygu, felly siaradwch â ni os ydych yn poeni am eich arian a byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio'ch opsiynau.

Isod mae costau byw cyfartalog ar gyfer 2022/2023. Mae lefel y costau hyn yn dibynnu'n fawr ar ffordd o fyw a bydd yn amrywio o berson i berson, ond mae bob amser yn syniad da llunio cyllideb - a chadw ati!

COSTAU NEUADDAU PRESWYL

Gwariant

Y gost fesul wythnos

Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)

Rhent

£152*

£6080

Nwy/Trydan Dwr

Wedi'i gynnwys yn y Rhent

Wedi'i gynnwys yn y Rhent

Yswiriant Cynnwys

Wedi'i gynnwys yn y Rhent

Wedi'i gynnwys yn y Rhent

Costau Teithio

£7.69

£400 (Yn ddilys am 52 wythnos)

*Yn seiliedig ar ystafell en-suite ganolig ar Gampws Singleton (mae costau llety’r Brifysgol yn amrywio o £95 yr wythnos - £240 yr wythnos)

Costau Preswylfeydd Preifat

Gwariant

Cost yr wythnos

Cost y flwyddyn 

Rhent

£96.46

£5016

Nwy/Trydan/Dŵr/Rhyngrwyd

(Fesul person)

£14.77

£768

Yswiriant Cynnwys

£1.45

£75

Costau Teithio

£7.69

£400

 

Costau Byw Cyffredinol

Costau Byw Cyffredinol

Costau fesul wythnos

Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)

Gwariant Hamdden

£17.78

£711.20

Trwydded deledu/Adloniant cartref arall

£6.42

£256.80

Dillad/Golchi Dillad

£11.75

£470

Bwyd/Deunydd Ystafell Ymolchi/Eitemau Cartref

£34.80

£1392

Ffôn (Symudol)

£4.15

£166

Costau gofal plant

£184.80*

£7392

*Yn seiliedig ar y gyfradd gyfartalog fesul awr o £5.28 meithrinfa ddydd x 35 awr ar gyfartaledd yn mynychu'r Brifysgol yr wythnos.

GWYBODAETH BWYSIG

Bwriad y dudalen hon yw rhoi enghraifft ichi o gostau byw myfyriwr yn y brifysgol. Bydd costau byw go iawn yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr.

SYLWER: amcangyfrifon rhesymol yw’r holl gostau byw ond ni ddylid dibynnu arnyn nhw. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod ganddo fe ddigon o arian i dalu am ei gostau byw tra’n astudio yn y brifysgol. Ni all y ffigyrau hyn gyfrif am amgylchiadau unigol a’r bwriad yn unig yw eu bod yn ganllaw cyffredinol i’ch helpu i baratoi’ch cyllid cyn ichi fynychu’r brifysgol.

Mae'r ffigurau'n seiliedig ar gostau cyfartalog a dalwyd gan fyfyrwyr o ffynonellau amrywiol gan gynnwys Save The Student, Consumer Price Index a Money Helper. Byddai'n hawdd lleihau'r costau hyn gyda chyllidebu gofalus.

I gael gwybodaeth am ba incwm y gallech chi fod yn gymwys ar ei gyfer ewch i’n Tudalen Cyllid Israddedigion.

Costau'r Cwrs

Costau Cyrsiau

Costau fesul Wythnos

Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)

Llyfrau

£9.93

£397.20

Argraffu a rhwymo

£1.26

£50.40

Offer ar gyfer y Cwrs

£2.08

£83.20

Teithiau Maes

£1.46 – £32.45

£58.40 - £1298.00

Gan ddibynnu ar eich cwrs ceir nifer o gostau gorfodol ac opsiynol y bydd gofyn ichi eu talu o bosibl. Cysylltwch â’ch adran i gael rhestr fanwl o’r costau penodol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod angen ichi ystyried hefyd y gost ynghlwm wrth gyllid ffioedd dysgu os nad oes gennych chi’r hawl iddo neu eich bod yn penderfynu peidio â derbyn mynediad iddo.

Hwyrach y bydd costau gorfodol neu opsiynol ynghlwm wrth raglenni (neu fodiwlau) penodol y bydd yn angenrheidiol ichi gymryd rhan ynddyn nhw’n llwyr er mwyn cwblhau’r rhaglen rydych chi wedi’i dewis.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma Cost ychwanegol.