A ydych chi'n barod am eich ffioedd dysgu?

Mae pecynnau cymorth ariannu gwahanol ar gael i ddysgwyr sydd am astudio’n llawn-amser neu'n rhan-amser. Dewch o hyd i ba gymorth ariannol yr ydych yn gymwys i'w dderbyn cyn i chi ymrestru a gwnewch gais o fewn y dyddiadau cau a osodir i sicrhau bod eich cymorth ariannol yn ei le erbyn i chi gyrraedd.

Mae'r hyn yr ydych yn gymwys i'w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.

Costau Ffioedd Dysgu 2023/24

Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth i Raddedigion, Nyrsio a Diplomâu i Raddedigion

  • Gwaith Cymdeithasol a Meddygaeth i Raddedigion: Bydd y Ffioedd Dysgu yn £9,000.
  • Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol a chyrsiau Gofal Iechyd: Os ydych yn derbyn cyllid gan y GIG byddant yn eu talu eich ffioedd yn llawn. Os nad ydych yn derbyn cyllid gan y GIG bydd y Ffioedd Dysgu yn £9,000.

I gael gwybodaeth ariannu ychwanegol am y rhaglenni arbenigol uchod ewch i’n tudalennau Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr ar y we.

Gwybodaeth Bellach