Perthnasol i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y Brifysgol yn swyddogol
Gofyn am ad-daliad
Os ydych wedi gordalu neu os yw'ch ffioedd dysgu wedi'u gostwng o ganlyniad i hysbysiad hwyr gan noddwr neu os ydych wedi gohirio neu dynnu yn ôl o'ch rhaglen, gallwch ofyn am ad-daliad o Swyddfa Arian y Brifysgol (wedi'i lleoli ar lawr gwaelod yr Adeilad Cyllid).
Gellir gwneud ad-daliad mewn amgylchiadau eithriadol, ar ddisgresiwn y Brifysgol.
Blaendal myfyrwyr rhyngwladol
Mae'r blaendal myfyrwyr rhyngwladol o £4,000 dim ond yn ad-daladwy os yw myfyriwr yn cael gwrthod fisa i astudio'n llawn-amser yn y DU (rhaid cynhyrchu tystiolaeth ddogfennol) neu os yw myfyriwr yn methu â chwrdd â gofynion mynediad y Brifysgol.
Talu'r ad-daliad
Unwaith y penderfynir bod ad-daliad yn daladwy rhaid ad-dalu'r taliad dilynol i'r person a wnaeth y taliad gwreiddiol gan ddefnyddio'r un dull o dalu â'r taliad gwreiddiol yn unol â gofynion Deddfwriaeth Gwrth-wyngalchu Arian y DU.
Ad-daliad oherwydd Tynnu yn Ôl/Gohirio
Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n Gohirio eich astudiaethau) gall cost eich ffioedd dysgu gael ei haddasu yn seiliedig ar y dyddiad olaf y buoch yn bresennol yn y Brifysgol (gweler yr adran sut y caiff eich ffioedd eu haddasu isod).Bydd swm y ffi a addasir yn dibynnu ar eich carfan, statws eich cwrs a ble yr ydych yn byw.
Sylwer:
- Ni chaiff cais am ad-dalu ffioedd ei ystyried oni bai bod ffurflen dynnu yn ôl neu ohirio wedi'i chymeradwyo gan eich adran 'gartref'/y Gofrestrfa Academaidd a'i phrosesu gan y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr. Mae ffurflenni ar gael o'ch adran
- Lle bo myfyriwr rhyngwladol yn ymrestru ond yn gohirio yn ystod pythefnos cyntaf y tymor, bydd y Brifysgol yn cadw £1000 o'r ffi a delir
- Caiff gordaliad ffioedd dysgu o ganlyniad i Ohirio astudiaethau ei gario ymlaen yn awtomatig i'r Sesiwn Academaidd nesaf. Caiff y credyd ei ddefnyddio i dalu am unrhyw atebolrwydd ffioedd yr eid iddynt wrth ailddechrau astudiaethau. Gall myfyrwyr fodd bynnag gwneud cais ffurfiol am ad-daliad ar y pwynt gohirio
- Os ydych yn ailddechrau eich astudiaethau ar ôl cyfnod o ohirio ar ddechrau'r flwyddyn Academaidd nesaf, byddwch yn atebol am gostau'r cwrs yn llawn am y flwyddyn honno
- Os yw myfyriwr Rhyngwladol wedi'i (g)wahardd neu ei dynnu/thynnu yn ôl oherwydd 'diffyg presenoldeb’ caiff y dyddiad a gyflwynir i Asiantaeth Ffiniau'r DU ei ddefnyddio at ddiben ail-gyfrifo ffioedd