Cynlluniau Ffioedd a Mynediad

Yn ôl Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i'r Brifysgol lunio Cynllun Ffioedd a Mynediad bob blwyddyn. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffioedd arfaethedig mae'n bwriadu eu codi am ei chyrsiau a faint o incwm o'r ffioedd y bydd yn ei fuddsoddi i wella 'Cyfle Cyfartal' ac i 'Hyrwyddo Addysg Uwch'.

Mae Cynlluniau Ffioedd a Mynediad yn darparu ar gyfer mwy o bwyslais ar wella mynediad i addysg uwch ac, yn benodol, sut bydd prifysgolion yn denu, yn cadw ac yn cefnogi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir. Yn gryno, mae'r Cynllun Ffioedd a Mynediad yn cynnwys:

  • Yr hysbysiad i godi'r ffi ddysgu uchaf bosib y flwyddyn ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn
  • Cyfanswm yr incwm o ffioedd a ddisgwylir o recriwtio myfyrwyr
  • Lefel yr incwm o ffioedd i'w fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hyrwyddo Cyfle Cyfartal ac yn Hyrwyddo Addysg Uwch
  • Sut caiff y buddsoddiad hwn ei ddyrannu yn ôl amcanion y Cynllun Ffioedd a Mynediad
  • Sut byddwn yn hysbysu darpar fyfyrwyr am y ffioedd hyn ac unrhyw gostau eraill
  • Sut cafodd y cynllun ei lunio ar y cyd â phartneriaid ac Undeb y Myfyrwyr
  • Y rhesymeg dros fuddsoddi incwm o ffioedd a sut mae hyn yn gyson â'n hamcanion strategol
  • Sut y nodwyd y grwpiau a dangynrychiolir i'w cynnwys yn y cynllun
  • Gweithgareddau a mentrau wedi'u halinio ag amcanion sydd â'r nod o gefnogi grwpiau a dangynrychiolir
  • Targedau er mwyn monitro cynnydd wrth gynyddu lefelau cyfranogiad a chadw myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir

Mae Cynlluniau Ffioedd a Mynediad y Brifysgol a gyhoeddwyd yma wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a gellir eu gweld isod.

Y Ffi Ddysgu Uchaf ar gyfer myfyrwyr o'r DU

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau na fydd y ffi ddysgu uchaf yn newid o £9,000 (nes y cyhoeddir yn wahanol).  Mae'r Brifysgol yn pennu ei ffi ddysgu uchaf fel y'i nodir ar ein gwefan ac mae'r Cynllun Ffioedd a Mynediad yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (megis unrhyw gynnydd mewn ffioedd ar sail chwyddiant yn y dyfodol) yn cael eu hadlewyrchu yn y ffioedd y bydd y Brifysgol yn eu codi ar ei myfyrwyr. Hysbysebir myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn  y dyfodol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib.

 

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i Gynllun Ffioedd a Mynediad cyfredol ac arfaethedig y Brifysgol.

Cynlluniau Ffioedd Dysgu

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-25 - (i fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi 2023 a mis Medi 2024; cymeradwywyd gan CCAUC on 04.08.22) 

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2022-23  - (i fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi 2022; cymeradwywyd gan CCAUC) 

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2021-22  - (i fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi 2021; cymeradwywyd gan CCAUC ar 27.05.20 a chymeradwywyd diweddariad gan CCAUC ar 11.06.21 a gyhoeddwyd yma ar 25.06.21)

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2020-21 - (ar waith o fis Medi 2020; cymeradwywyd gan CCAUC ar 03.09.19 a chyhoeddwyd yma ar 11.09.19)

  • Crynodeb o Gynllun Ffïoedd a Mynediad 2020-21

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2019-20 - (ar waith o fis Medi 2019; cymeradwywyd y cynllun hwn yn wreiddiol gan CCAUC ar 26.07.18 ac fe’i cyhoeddwyd ar 09.08.18. Diweddarwyd y cynllun (a adwaenir fel amrywiad) ym mis Awst 2019 i adlewyrchu newidiadau i’n darpariaeth freiniol (cyrsiau a ddarperir mewn partneriaeth â Cholegau Addysg Bellach). Cymeradwywyd y fersiwn ddiweddar hon gan CCAUC ar 03.09.19 ac fe’i hailgyhoeddwyd yma ar 11.09.19)