Costau gorfodol a dewisol

Yn ogystal â'ch taliadau Ffioedd Dysgu a'ch costau byw gall rhaglenni (neu fodiwlau) arbennig olygu costau gorfodol neu ddewisol ychwanegol sy'n angenrheidiol er mwyn i chi gymryd rhan yn llawn yn eich rhaglen ddewisol a'i chwblhau. Bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer y costau hyn ar wahân gan nad ydynt wedi'u cynnwys yn y Ffioedd Dysgu cyffredinol yr ydych yn eu talu. Gall costau o'r fath gynnwys teithiau gwaith maes, costau teithio ar gyfer lleoliadau gwaith neu astudio, costau labordy ac offer neu wiriadau CRB sy'n benodol i'ch rhaglen.

Gwiriwch eich rhaglen unigol am ragor o wybodaeth am unrhyw gostau 'Ychwanegol' y mae'n bosib y bydd angen i chi eu talu.