Mae gan Brifysgol Abertawe ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a Diwylliant Cymreig tra eich bod yn astudio gyda ni. Efallai nad ydych chi'n hyderus yn siarad Cymraeg ac eisiau cyfle i ymarfer, neu eich bod yn siaradwr rhugl ac eisiau cwrdd ag eraill sy'n siarad eich iaith.

Mae croeso cynnes i bawb.

Y Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym)

Mae bod yn aelod o’r Gym Gym yn gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe i gymdeithasu a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill o fewn y Brifysgol. Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau sydd yn amrywio o grôlau a nosweithiau cymdeithasol, nosweithiau cwis ac ambell drip. Y prif noson mae pawb yn disgwyl ymlaen ato yw'r crôl teulu ar ddechrau'r flwyddyn; mae'n gyfle gwych i ddod i adnabod aelodau newydd a phresennol Y Gym Gym. Yn flynyddol, trefnir trip yn ystod y Chwe Gwlad i Ddulyn neu i Gaeredin. Mae’r tripiau yn siawns dda i gymdeithasu a gwneud ffrindiau gydag aelodau Gym Gym’s eraill ar draws Cymru. Bob blwyddyn, mae'r Gym Gym yn mynychu Dawns Rhyngolegol a’r Eisteddfod Ryngol gan gystadlu yn erbyn Cymdeithasau Cymraeg eraill.

Dysgwch ragor am gymdeithasau Undeb Y Myfyrwyr yma neu ddarllenwch ragor am Y Gymdeithas Gymraeg yma.

Logo y Gymdeithas Gymraeg, sef alarch o fewn tarian gyda enw'r Gym Gym uwch ei ben a Prifysgol Abertawe oddi tano,

Aelwyd yr Elyrch

Ysbrydolwyd ein myfyrwyr i greu aelwyd newydd yr Urdd eu hunain ac fe lansiwyd Aelwyd yr Elyrch ar ddiwrnod pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022. Mae Aelwyd yr Elyrch yn gyfle gwych sy’n addas i bobl 18-25 oed. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i chi gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.

Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno a’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd?  Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.  

Logo Aelwyd yr Elyrch

Shwmae, Ruby ydw i a fi yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr!

Merch o’r Rhondda, sydd newydd raddio mewn Llenyddiaeth Saesneg, yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe am y flwyddyn nesaf. Bydd Ruby Cradle yn gyfrifol am hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy’r Brifysgol, yn ogystal â gofalu am fuddiannau myfyrwyr Cymraeg. “Dw i’n hynod o falch o’r cyfle i amlygu pwysigrwydd treftadaeth a diwylliant Cymru i’r holl fyfyrwyr,” meddai Ruby Cradle, a gafodd ei hethol i’r swydd yn gynharach eleni.

“Mae’r diwylliant Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ers pan o’n i’n ifanc, yn mynd i’r Eisteddfod gyda fy nheulu a chynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau’r Urdd. “Fy ngobaith yw integreiddio bywyd Cymraeg traddodiadol ar draws pob agwedd o fywyd y Brifysgol trwy arddangos a dathlu ei werth, a bod yn bont rhwng y Gymraeg a’r gymuned ehangach yn y Brifysgol.” Mae Ruby yn ymuno â thîm o chwech o swyddogion llawn-amser yr Undeb, elusen sy’n gweithredu fel llais i tua 20,000 o fyfyrwyr a sydd â phresenoldeb ar ddau gampws y Brifysgol.

Llun o Ruby Cradle