Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn cefnogi dros 150 o gymdeithasau
Mae cymuned myfyrwyr gref ar gampysau Prifysgol Abertawe. O'r celfyddydau gweledol i pocer, cwrw go iawn i ganu corawl, mae'n debygol iawn bod gan Undeb y Myfyrwyr y gydeithas berffaith i chi - ac os nad oes un yn bodoli, mae'n rhwydd creu eich un eich hun!
Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi i'ch helpu i gael hyd i swydd - yn enwedig os byddwch yn arwain wrth gynnal y clybiau.
Gallwch ddysgu mwy a chofrestru i glwb chwaraeon neu gymdeithas ar unrhyw adeg trwy ymweld â gwefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig yn ystod y cyfnod croeso hefyd.
I weld rhestr law o gymdeithasau, a chael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr.
Helô, Georgia ydw i, Swyddog Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr!
Helo, Georgia ydw i a fi yw eich Swyddog Chwaraeon Etholedig am y flwyddyn academaidd.
Yn ystod fy amser yn Abertawe, roeddwn i’n rhan o'r tîm polo dŵr. Hwn oedd y penderfyniad gorau wnes i yn ystod fy nhair blynedd yn y Brifysgol.
Ochr yn ochr â chwarae polo dŵr, roeddwn i’n rhan fawr o'r tîm nofio fel yr ysgrifennydd cymdeithasol yn fy ail flwyddyn ac yn gapten yn fy nhrydedd, felly roedd Chwaraeon yn rhan enfawr o fy mywyd fel myfyriwr, a byddwn i wrth fy modd os yw e’n rhan o’ch profiad chi hefyd.
Cyfryngau'r Brifysgol
Gall myfyrwyr wirfoddoli i gymryd rhan gydag unrhyw rai o'r cyfryngau hyn, a rhoddir hyfforddiant a help iddynt ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol. Mae profiad gwaith ymarferol ar gael hefyd, o safbwynt y cyhoeddiadau i fyfyrwyr a sefydliadau allanol hefyd. Erbyn hyn mae llawer o gyn-gyfranogwyr Waterfront yn gwneud gwaith proffesiynol yn y cyfryngau - ond mae croeso hefyd i'r fyfyrwyr sydd am ysgrifennu er pleser yn unig!
Mae gan Brifysgol Abertawe bapur newydd a gynhelir gan fyfyrwyr, Waterfront, Front, a gwefan Waterfront Online, sy'n cael eu cynnal gan dîm mawr o fyfyrwyr sy'n ysgrifenwyr, ffotograffwyr, cynllunwyr a datblygwyr y we.
Mae gorsaf radio i fyfyrwyr ar y campws hefyd. Mae gan Xtreme Radio stiwdios byw a recordio, lle gall myfyrwyr gyflwyno a chynhyrchu eu sioeau eu hunain. Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan, ac mae cyn-aelodau Cymdeithas Radio Xtreme wedi symud ymlaen i swyddi ym maes radio. Mae Xtreme yn cydweithio'n agos â Radio'r BBC i ddarparu hyfforddiant i'w haelodau.
Gorsaf deledu swyddogol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, SUTV. Recordiwch, golygwch a chyhoeddwch gynnwys fideo ar-lein gyda’r nod o hyrwyddo a hysbysebu profiad myfyrwyr yn y brifysgol trwy ddigwyddiadau, cymdeithasau a chwaraeon.
Helô, Georgia-Rose ydw i, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr.
Helo! Fy enw i yw Georgia-Rose a fi yw eich Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau.
Fi oedd Swyddog yr Amgylchedd yn ystod blwyddyn academaidd 2019/2020 ac roeddwn i ar bwyllgor y Gymdeithas Ddaearyddiaeth am ddwy flynedd yn ystod fy Ngradd Daearyddiaeth Ffisegol israddedig.
Mae cymdeithasau yn rhan enfawr o fywyd myfyrwyr yma yn Abertawe ac rwy'n bendant yn eich annog chi i gymryd rhan!