Mikaela Price 

Ydych chi’n ceisio tynnu lluniau da o amgylch ardal Abertawe i’w cynnwys ar Instagram ond yn ansicr ble mae’r lleoedd gorau? Rydych chi wedi dod i’r lle cywir! Rydyn ni wedi llunio rhestr o’r 5 lle gorau yn Abertawe i’w cynnwys ar Instagram gan gynnwys cyngor ar sut i dynnu’r lluniau gorau ohonynt. Bant â ni…

Mikaela Price

1. Traeth Abertawe, Campws y Bae

Wrth gwrs ni fyddwn ni’n gallu llunio’r rhestr hon heb sôn am rai o’r lleoliadau prydferth sydd gennym ni yn y Brifysgol!

Wrth gwrs, ni fyddai modd i ni lunio’r rhestr hon heb sôn am rai o’r lleoliadau prydferth sydd gennym ni yn y Brifysgol! Un o’r pethau sy’n apelio fwyaf am astudio ar Gampws y Bae yw’r traeth ar ein stepen drws sy’n wych ar gyfer cymdeithasu â’ch ffrindiau ar ddiwrnodau heulog a thynnu lluniau. Mae tynnu lluniau da ar y traeth yn ddigon hawdd, yn enwedig ar ddiwrnodauheulog a chlir ond os ydych chi’n pryderu efallai y bydd eich lluniau i gyd yn edrych yn debyg, mae digon o leoedd gwahanol ar gael er mwyn helpu i osgoi hyn: 

Bae Abertawe
Bae Abertawe
Bae Abertawe

2. Gerddi Clun

Tu hwnt i’r brifysgol mae yna lu o leoliadau o amgylch Abertawe sy’n ddelfrydol ar gyfer Instagram, gan gynnwys Gerddi Clun yn ardal y Mayals. Mae’r parc hwn yn adnabyddus am ei erddi prydferth a’i arddangosfeydd mawr o flodau gwyllt, yn ogystal â’r bont Japaneaidd a grisiau yng nghanol ardal y goedwig.

Wrth groesi'r bont gallwch weld rhaeadrau bach naill ochr i'r rheiliau, sy'n rhoi naws hudolus i'r parc. Gellir gweld y rhaeadrau hyn hefyd o waelod y goedwig ac maent yr un mor brydferth o'r ongl honno.

 

Gerddi Clun
Gerddi Clun
Gerddi Clyne

3. Bae Langland

Mae'n eithaf amlwg, gyda chymaint o draethau o gwmpas yr ardal ei bod hi'n anodd dewis un yn unig, felly dw i wedi penderfynu cynnwys dau ar y rhestr hon! Mae'r traeth hwn wedi'i leoli yn Langland ac mae'n cael ei adnabod fel un poblogaidd iawn. Yr hyn sy'n gosod y traeth hwn ar wahân i'r nifer fawr o rai eraill yn Abertawe yw'r rhes o gytiau traeth gwyrdd a gwyn sy'n eistedd ychydig uwchben y traeth ac sy'n gallu gwneud cefndir lliwgar ar gyfer llun da!

Tynnais y lluniau hyn yn ystod yr ‘Awr Aur’; ffenestr fach sy’n digwydd awr cyn i’r haul fachlud yn gyfan gwbl, ac fe wnaeth yr olygfa hon o’r môr edrych hyd yn oed yn fwy anhygoel!

Bae Langland
Bae Langland

4. Stryd y Gwynt

Os ydych chi'n unrhyw beth fel fi efallai y byddwch chi'n synnu ychydig o weld Stryd y Gwynt yn gwneud y rhestr hon, ond yn sicr mae wedi ennill ei le. Mae peth o harddwch y stryd yn aml yn cael ei anwybyddu gan mai fel lleoliad bywyd nos mae’n cael ei ystyried fel arfer. Rhaid cyfaddef nid yw bob tro yn edrych fel hyn, ond gydag ychydig o lwc gall wneud llun gwych ar gyfer Instagram.

Dechreuais trwy dynnu rhai lluniau o'r ffynhonnau ar gopa Stryd y Gwynt yng nghanol y dref. Liw nos mae’r ffynhonnau’n cael eu goleuo’n borffor sydd hefyd yn amser gwych i dynnu llun!

Fel y gallwch weld ges i fy ‘ffotobombio’ gan wylan yn y llun uchod. Mae'n ymddangos bod y gwylanod yn ymweld â’r ardal hon yn rheolaidd gan fod McDonalds wedi’i leoli ger y ffynhonnau, ac yn gartref eithaf da i aderyn sy'n adnabyddus am ddwyn sglodion!

Stryd Y Gwynt
Stryd Y Gwynt

5. Castell Pennard

Y lleoliad olaf ar y rhestr hon yw Castell Pennard sydd y tu allan i'r Gŵyr. Mae Castell Pennard yn gastell adfeiliedig hanesyddol sy'n edrych dros Fae’r Tri Chlogwyn ac wedi'i leoli ar ymyl cwrs golff. Dyma'r man mwyaf uchelgeisiol i'w gyrraedd ar y rhestr hon gan fod angen taith gerdded oddeutu 30 munud trwy'r cwrs golff, ond mae'n werth yr olygfa!

Yma gallwch weld yr olygfa o'r bae o ymyl y castell.

Pennard
Castell Pennard