#InspireInclusion

Merched yn creu tyrbinau gwynt mas o bapur yng Nghwyl Wyddoniaeth Abertawe 2023

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD), sy'n cael ei nodi ar yr 8fed o Fawrth, yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Yn ymroddedig i gyflymu cydraddoldeb menywod, mae IWD hefyd yn nodi galwad fyd-eang i weithredu i lobïo cydraddoldeb rhywiol.

Thema IWD ar gyfer 2024 yw #InspireInclusion. Mae'r ymgyrch yn ceisio meithrin dealltwriaeth fyd-eang ynghylch pam nad yw cyfle cyfartal yn ddigon. Mae'r ymgyrch yn ceisio creu byd sy'n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu. Byd sy'n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol. Byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu.

Mae'r fideo yma wedi cael ei greu gan ymgyrch ryngwladol i ddangos pwysigrwydd nodi'r diwrnod penodol hwn.

grŵp o fyfyrwyr yn chwerthin

Beth allaf i wneud?

  • Dathlu cyflawniadau merched
  • Addysgu a chodi ymwybyddiaeth am gydraddoldeb menywod
  • Galw am newid cadarnhaol i hyrwyddo menywod
  • Lobio am gydraddoldeb rhywiol cyflymach
  • Codi arian ar gyfer elusennau sy'n canolbwyntio ar fenywod

Angen mwy o syniadau? Ewch i dudalen we swyddogol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod isod

IWD Gwefan Swyddogol

Beth sydd ymlaen?

Mae Prifysgol Abertawe yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, o sgyrsiau ysbrydoledig a phaneli trafod i werthu cacennau elusennol! Edrychwch ar holl ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar draws y campysau isod.

Digwyddiadau IWD Prif Abertawe