Croeso i Canvas
Croeso i dudalennau gwe Prosiect Canvas Prifysgol Abertawe, lle gallwch ddysgu mwy am y prosiect i roi ein platfform dysgu digidol newydd ar waith - Canvas.
Mae Prifysgol Abertawe eisoes yn adnabyddus am ragoriaeth ei dysgu, ei haddysgu a'i hasesu, a'r nod yw y bydd cyflwyno platfform Canvas yn trawsnewid, yn gwella ac yn chwyldroi'r profiad i fyfyrwyr a staff.
Bydd Canvas yn hollol weithredol erbyn dechrau blwyddyn academaidd 20/21 ar ôl i Blackboard gael ei ddigomisiynu ar 31 Gorffennaf 2020, a sefydlwyd tîm prosiect i gynorthwyo'r Brifysgol drwy'r newid allweddol hwn.
Bydd amrywiaeth helaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal rhwng nawr a'r dyddiad pan fydd Canvas yn weithredol i bawb. Mae hyn yn cynnwys ein Harloeswyr Canvas yn cyflwyno rhai modiwlau academaidd yn gynnar a rhaglen hyfforddiant a fydd ar gael i’r holl staff o fis Chwefror 2020.
P'un a ydych yn aelod staff neu'n fyfyriwr, lluniwyd y tudalennau gwe hyn i'ch cynorthwyo ac i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newid i Canvas.