Myfyrwraig yn defnyddio gliniadur
logo canvas

CANVAS 24/7

Mae Canvas yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i'ch helpu gydag ymholiadau sy'n ymwneud â defnyddio Canvas o ddydd i ddydd, a'i nodweddion. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael 24/7, a cheir mynediad atynt naill ai drwy glicio ar yr eicon 'help' ar waelod y bar llywio yn Canvas, neu drwy'r dolenni isod:

Dyn yn gweithio ar gyfrifiadur, yn gwisgo set o glustffonau

DESG WASANAETH TG

Am ymholiadau a cheisiadau Canvas sy'n benodol i'n sefydliad ni, neu i roi gwybod bod rhywbeth sy'n gysylltiedig â Canvas wedi mynd o'i le, gallwch gyflwyno cais i'r Ddesg Wasanaeth TG. Dyma restr o’r math o ymholiadau y gallwch eu cyflwyno i'r Ddesg Wasanaeth:

  • Materion sy'n ymwneud â mewngofnodi i Canvas
  • Materion sy'n ymwneud â chofrestru am Gyrsiau Canvas

Sylwer: Os ydych chi'n cael anawsterau technegol wrth gyflwyno aseiniad, dylech chi gysylltu â Swyddfa Asesu eich Cyfadran yn y lle cyntaf.

pasbort gyda logo'r cynfas arno

PASBORT I CANVAS

Mae 'Pasbort i Canvas' yn gwrs Canvas sy'n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ddefnyddio Canvas yn eich dosbarth(iadau). Mae'r cwrs yn cynnwys arweiniad ar nodweddion craidd Canvas gan gynnwys Llywio, Aseiniadau, Cwisiau, Trafodaethau, Graddau ac Adborth, defnyddio'r ap i fyfyrwyr a mwy.

Gallwch gyrchu Pasbort i Canvas yn Saesneg o unrhyw un o'ch Cyrsiau Canvas, neu drwy ddefnyddio'r ddolen ar eich dangosfwrdd.

Mae Pasbort i Canvas ar gael yn Gymraeg hefyd. Gall myfyrwyr hunangofrestru ar y cwrs Pasbort i Canvas Cymraeg.