Mae'r GymGym yn ganolog i fywyd myfyrwyr Cymraeg yn Abertawe

P'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl neu ddim ond yn ceisio ymarfer eich Cymraeg, bydd y GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd.  Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn reolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy.  Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe a Phêl Rwyd Tawe.

Yn 2016-17 roedd y Gym Gym yn un o bedair Cymdeithas i dderbyn 'Aur' o fewn system Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r gymdeithas bellach yn 'Gymdeithas Aur'.

Eisteddfod Ryng-golegol 2019

Cafodd yr Eisteddfod Ryng-golegol ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe yn 2019.

Roedd yr Eisteddfod, a chynhaliwyd ar y 1af ac 2il o Fawrth, yn cynnwys cystadlaethau amrywiol a safonol – yn gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith, celf a gwyddoniaeth. Roedd hefyd cystadlaethau penodol i fyfyrwyr sy’n ddysgwyr Cymraeg.

Yn ogystal â’r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn, cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon ryng-golegol ar brynhawn Gwener 1 Mawrth, gan gynnwys twrnament rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd ac yna i gloi’r penwythnos roedd gig ar y nos Sadwrn gyda rhai o’r bandiau Cymraeg gorau sef Candelas, Mellt a HMS Morris.

Dyma rai delweddau o Eisteddfod Ryng-golegol 2019!

 

Neuadd ty Fulton yn llawn o gystadleuwyr ar gyfer EIsteddfod Ryng-golegol 2019
Neuadd Ty Fulton yn llawn o gystadleuwyr yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2019
Grug Muse o Brifysgol Abertawe yn ennill y gadair yn Eisteddfod Ryng-golegol 2019
Prifysgol Bangor oedd yn fuddugol
Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn ennill y goron
Beirniaid yr Eisteddfod Ryng-golegol 2019
Candeals yn perfformio yn Rebound - gig Rhyng-gol
HMS Morris yn perffomrio yn Gig Rhyng-gol
Criw GymGym ynn mwynhau'r gig
Parti marched yn canu yn yr EIsteddfod Ryng-golegol
Tim pel-droed bechgyn Rhyngol 2019
Tim pel-rwyd marched Rhyngol 19