Cronfa Goffa Hywel Teifi

Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 yn deyrnged i’r Athro Hywel Teifi Edwards er mwyn sicrhau parhad i’w waith fel ysgolhaig ac fel pencampwr dros iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Treuliodd Hywel Teifi ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a nod yr Academi yw sicrhau parhad ei weledigaeth, sef cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg a hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng yr iaith ar lefel genedlaethol a chymunedol.

Gwnaeth Hywel Teifi gyfraniad unigryw fel ysgolhaig, hanesydd, awdur, darlledwr a chyfathrebwr, a dehonglydd treiddgar a ffraeth o’n diwylliant. Mae Academi Hywel Teifi am sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau i ysbrydoli a dylanwadu ar genedlaethau’r dyfodol.

  • Trefnir gweithgareddau a chydlynir prosiectau er mwyn cynnal y cof am Hywel ac er mwyn adeiladu ar y waddol a adawodd o’i ôl.
  • Rydym yn noddi darlith goffa flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol.
  • Mae’r Academi yn ariannu rhaglenni cymunedol sy’n agored i bawb yn ne orllewin Cymru i gael dysgu am hanes, llenyddiaeth a diwylliant eu bro a’u cenedl.

Er mwyn sicrhau twf pellach ar waith Academi Hywel Teifi sefydlwyd Cronfa Goffa Hywel Teifi yn 2012 gan Huw Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, i godi incwm ychwanegol i gefnogi prosiectau a darparu adnoddau cyfrwng Cymraeg.  Mae Cronfa Goffa Hywel Teifi yn cefnogi prosiectau a darparu cyfleoedd ac adnoddau fydd yn newid bywyd ein myfyrwyr a chynorthwyo’r Brifysgol i weithredu fel sefydliad sydd yn agor drws ar ddyfodol disglair i Gymry Cymraeg.

Sut i Gefnogi?

Credwn y dylai addysg drawsnewid bywydau pobl ifanc Cymru, datblygu ein cymunedau a chyfoethogi ein cenedl. Gallwch chi ein cynorthwyo i gyrraedd y nod hwn drwy sicrhau bod gwaith yr Academi’n parhau i ddatblygu ac ehangu er budd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg y De Orllewin a Chymru gyfan. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i gyflawni’n hamcanion, gan wneud gwahaniaeth i’r cenedlaethau a fydd yn ein helpu i lywio dyfodol y rhanbarth a’r wlad.

Bydd eich haelioni yn coffau cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards i fywyd Cymru ac yn sicrhau parhad llwyddiant y gwaith o hyrwyddo a datblygu gweledigaeth yr Academi a sefydlwyd yn ei enw. I gyfrannu, gallwch lenwi’r Ffurflen Cronfa Goffa Hywel Teifi.

 

Ysgoloriaeth newydd i goffau cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards

Mae Academi Hywel Teifi wedi lansio apêl er mwyn sefydlu ysgoloriaeth newydd er cof am Hywel Teifi Edwards.

Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi fydd cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi i ddysg a diwylliant Cymru - yn benodol ym meysydd:

  • Hanes
  • Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg
  • Gwleidyddiaeth
  • Y cyfryngau‌

Lansiwyd yr Ysgoloriaeth yn 2020 wrth i'r Brifysgol ddathlu ei chanmlwyddiant, ac roedd hi’n ddegawd ers sefydlu’r Academi ym Mhrifysgol Abertawe er cof am Hywel Teifi, lle dreuliodd 30 mlynedd yn darlithio. 

Gwobrwywyd deiliad cyntaf yr Ysgoloriaeth, Alpha Evans, yn 2021. Darllenwch ei stori yma

Rydym yn gofyn i bobl gyfrannu at yr Ysgoloriaeth yn fisol, gyda’r bwriad o wobrwyo bob dwy flynedd. Lawlwythwch daflen Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi  am fanylion a chliciwch yma i gyfrannu. 

Plât arbennig i goffau cyfraniad Yr Athro Hywel Teifi Edwards

I godi arian i’r Gronfa, mae Academi Hywel Teifi wedi comisiynu yr artist seramig arobryn Lowri Davies i gynllunio plât arbennig i goffau cyfraniad unigryw a gwerthfawr Yr Athro Hywel Teifi Edwards i addysg a diwylliant Cymru .

Nifer cyfyngedig o'r platiau coffa sydd ar gael - 150 yn unig! Mae’r cynllun yn cynnwys englyn o waith y Prifardd Alan Llwyd am yr Academi a sefydlwyd er cof am Hywel gan ddarlunio hefyd aberoedd dwy afon sy'n cynrychioli'r ardaloedd a oedd mor agos at ei galon - Aberarth ac Abertawe.

Mae Academi Hywel Teifi yn hynod falch i Lowri Davies, enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn 2009, dderbyn y comisiwn arbennig hwn, a gobeithiwn y byddwch yn cefnogi Cronfa Goffa Hywel Teifi drwy archebu'r plât coffa. Pris y plât coffa yw £75, gan gynnwys costau cludiant.

Ffurflen archebu plât y Gronfa

Cinio Mawreddog Cronfa Goffa Hywel Teifi

Noson i godi arian i Gronfa Goffa Hywel Teifi

Cinio Mawreddog Cronfa Goffa Hywel Teifi

Fel rhan o'r noson cafwyd araith ysbrydoledig gan Huw Edwards

Golygfa o'r cinio mawreddig

Ar nos Wener Ionawr 29ain 2016, cynhaliodd Academi Hywel Teifi ginio mawreddog yn Neuadd Fawr Campws y Bae, i godi arian i Gronfa Goffa Hywel Teifi, gyda’r darlledwr Huw Edwards yn siaradwr gwadd.

Mynychodd dros 120 o bobl y cinio, gan gynnwys ffigyrau blaenllaw o fyd darlledu a’r cyfryngau, y byd addysg uwch a threftadaeth, y byd chwaraeon a gwleidyddiaeth  a’r sector fusnes. Cawsant eu diddanu gan y soprano fyd-enwog o Abertawe, Elin Manahan Thomas, Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr Ian Rutt, a roddodd y datganiad cyhoeddus cyntaf erioed ar organ newydd y Neuadd Fawr, a pherfformiad gan Bedwarawd Llinynnol Banks o Goleg Cerdd Brenhinol Llundain. Wedi hynny, cafwyd araith ysbrydoledig gan Huw Edwards, y darlledwr llwyddiannus a mab Hywel Teifi, lle bu’n dwyn i gof syniadaeth ei dad am le’r Gymraeg mewn addysg a bywyd cyhoeddus. Cynhaliwyd yn dilyn hynny, arwerthiant llwyddiannus a gododd £9,000 dan arweiniad Glynog Davies.

Meddai Huw Edwards: “Rydym ni fel teulu yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am gynnal enw Dad drwy sefydlu Academi Hywel Teifi yn ganolfan o ragoriaeth sy’n hybu ac arloesi mewn addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, ac yn weithredol dros dwf a ffyniant yr iaith Gymraeg. Roedd yn hyfryd bod cymaint o gyfeillion o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi ymuno gyda ni ar gyfer y noson arbennig iawn hon yn Neuadd Fawr odidog campws newydd y Brifysgol. Roedd yn dda gen i ddathlu a chefnogi gwaith a gweledigaeth y ganolfan flaengar hon.”

Ychwanegodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Roedd hi'n fraint gallu cynnal y digwyddiad arbennig hwn yn Neuadd Fawr ysblennydd Campws y Bae. Cafwyd noson i'w chofio wrth i ni ddathlu cyfraniad a gwaith yr Athro Hywel Teifi, gyda chyfeillion a chefnogwyr i'r Academi. Rydym wrth ein bodd gyda'r swm rydym wedi ei godi ar gyfer Cronfa Goffa Hywel Teifi a fydd yn sicrhau twf pellach ar waith yr Academi wrth gefnogi prosiectau a darparu cyfleoedd i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Hawliodd y digwyddiad dipyn o sylw yn y wasg hefyd gyda chriw o Heno yn ffilmio ar y noson ei hun ac erthyglau mewn amryw o bapurau newydd a chylchgronau wedi’r noson. Roedd llawer wedi rhoi sylw i’r Cinio Mawreddog yn y cyfryngau cymdeithasol hefyd, yn ystod y digwyddiad ei hun ac yn y dyddiau dilynol.

Huw Edwards oedd siaradwr gwadd y noson

Huw Edwards yn rhoi araith fel rhan o'r noson