Yr Athro Hywel Teifi Edwards 1934-2010

Llenyddiaeth Cymru'r 19eg ganrif oedd prif faes ysgolheictod yr Athro Hywel Teifi Edwards ac ef oedd yr awdurdod mwyaf blaenllaw ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol a Chymru Oes Fictoria. Yn bennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe tan ei ymddeoliad yn 1995, ble y treuliodd ei yrfa academaidd gyfan, roedd hefyd yn lladmerydd huawdl ac angerddol dros ei genedl a’r Gymraeg. Roedd yn gyson yn annerch ralïau a chyfarfodydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru ac yn ddarlithydd cyhoeddus heb ei ail, boed hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru neu mewn neuaddau pentref ledled Cymru.

Fideo: Sesiwn a gynhaliwyd yn y Lolfa Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, gyda'r Athro M. Wynn Thomas, Dr Gwenno Ffrancon a'r Arglwydd Dafydd Wigley, fu'n nodi cyfraniadau aml-weddog y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i wleidyddiaeth, ysgolheictod a diwylliant Cymru.

Dathlu Cyfraniad Hywel Teifi

Bywyd Teuluol

Fe’i ganed yn Llanddewi Aber-arth, pentref ar arfordir Ceredigion, yn 1934 ac yn ei ieuenctid fe fu’n bêl-droediwr brwd – a’i angerdd at gêm y bêl gron, a’i hoff dîm Arsenal,  yn parhau drwy ei fywyd. Ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, bu’n dysgu yn Ysgol Ramadeg Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, cyn cael ei benodi’n ddarlithydd allgyrsiol i Brifysgol Abertawe. Ym Mlaengarw y cyfarfu ag Aerona Protheroe, ddaeth yn wraig iddo ac yn fam i'w mab Huw (y darlledwr teledu) a'u merch Meinir. Symudodd y teulu ym 1966 i bentref Llangennech, rhwng Llanelli ac Abertawe, lle y cyfranodd yn helaeth i’w gymuned gan sefydlu cymdeithas lenyddol yn y pentref,gan wasanaethu fel llywodraethwr ysgol a blaenor yn y capel Presbyteraidd lleol, ac fel cynghorydd dros Blaid Cymru ar Gyngor Sir Dyfed. Bu farw ar y 4ydd o Ionawr 2010 ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanddewi Aber-arth, ei bentref genedigol.

Cyhoeddiadau

Yn ddehonglydd heb ei ail ar fywyd a diwylliant Cymru oes Victoria, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Eisteddfod  1176–1976 (Gomer 1976) ac ystyrir Gwyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858–1868 (Gomer 1980) fel ei magnum opus.

Dilynodd cyfrolau pellach ar hanes a llenyddiaeth Cymru:  Codi'r hen wlad yn ei hôl, 1850–1914 (Gomer 1989) ac Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893, (Gomer 1990). Yn ysgolhaig a oedd â gwreiddiau dwfn yng nghymoedd y de, roedd ganddo barch mawr at y rhai y cyfarfu â nhw yn y dosbarthiadau addysg oedolion a gynhaliwyd ganddo ledled yr hen faes glo ac ysgrifennodd gyfrol ar ddelwedd y meysydd glo mewn rhyddiaith a barddoniaeth Gymraeg rhwng 1850 a 1950, Arwr Glew Erwau'r Glo (Gomer 1990). Golygodd 10 cyfrol unigryw Cyfres y Cymoedd ar lenyddiaeth a hanes y cymoedd (Gomer 1993-2003) a oedd hefyd yn ymgais i wneud yn iawn am fethiant llenyddiaeth Gymraeg i fynegi profiad y gymdeithas ddiwydiannol.  

Ceir asesiad o gyfraniad ysgolheigaidd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn y ddarlith isod gan yr Athro Geraint H. Jenkins.

'Hywel Teifi Edwards, yr Ysgolhaig' Yr Athro Geraint H. Jenkins (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Athro Hywel Teifi Edwards yng nghwmni Iolo Williams ar ymweliad â bedd y bardd Hedd Wyn