Lansiwyd Academi Hywel Teifi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010 gan Huw Edwards ym mhresenoldeb y Gweinidog Addysg Leighton Andrews AC a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC gan ddenu cyhoeddusrwydd helaeth. Sefydlwyd Darlith Goffa Hywel Teifi yn yr Eisteddfod honno a bellach mae wedi dod yn uchafbwynt ar gyfer rhaglen Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod. Academi Hywel Teifi sy’n gyfrifol am drefnu, cydlynu a hyrwyddo y rhaglen honno, yn ogystal a datblygu ac arbrofi gyda’r dulliau o gynnal presenoldeb y Brifysgol ar y Maes.
Ers 2010 cynhaliwyd digwyddiad ar gyfer staff, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol gyda’r Is-ganghellor a staff arweiniol yn annerch y derbyniad. Yn ogystal a staff, mae cyfeillion blaenllaw eraill yr Academi fel Huw Edwards, Beti George, Jason Mohammad a Heini Gruffudd wedi arwain sesiynau ar stondin y Brifysgol. Mae ffocws gref ar recriwtio a darparu gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr yn yr Eisteddfod, gyda diwyg y stondin yn adlewyrchu’r nod hwn. Defnyddir myfyrwyr presennol yn flynyddol dan gynllun cyflogadwyedd SPIN y Brifysgol i gefnogi’r gweithgareddau recriwtio.