Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol sy'n dathlu iaith, celfyddydau a diwylliant Cymraeg

Llythrenau Tafwyl yn Castell Caerdydd

Gŵyl flynyddol sy'n dathlu iaith, celfyddydau a diwylliant Cymraeg

Mae Tafwyl, a sefydlwyd yn 2006, yn ŵyl flynyddol sy'n dathlu iaith, celfyddydau a diwylliant Cymraeg sydd fel arfer yn gorffen gyda nifer o ddigwyddiadau awyr agored ar dir Castell Caerdydd. Mae Academi Hywel Teifi wedi cyfrannu at raglen pafiliwn llenyddiaeth Tafwyl ers 2015 ac wedi noddi y pafiliwn llenyddiaeth ers 2016. 

Er gwaetha pandemig Covid-19, mae partneriaeth Academi Hywel Teifi â Tafwyl wedi parhau wrth i’r ŵyl boblogaidd orfod symud ar-lein. Cafodd holl ddigwyddiadau Tafwyl Digidol 2020 eu ffrydio'n fyw ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin a Wythnos Tafwyl 2021 yn cael eu ffrydio rhwng 9 -16 Mai 2021, gydag Academi Hywel Teifi yn noddi ac yn cynnal sesiynau yn ardal rithwir ‘Llais’ yr ŵyl.