Academi Hywel Teifi yn noddi llwyfan Llais yng ngŵyl Tafwyl 2021

Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, roedd Academi Hywel Teifi yn falch noddi llwyfan Llais yr ŵyl gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir i bobl o bob oed fel rhan o Wythnos Tafwyl, 9 -16 Mai 2021.

Meddai Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn falch iawn o noddi llwyfan Llais Tafwyl unwaith eto eleni. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i’r ŵyl a hithau yn ei phymthegfed blwyddyn, ac edrychwn ymlaen at fwynhau’r arlwy o drafodaethau, sgyrsiau, cerddoriaeth a mwy. Mae Tafwyl yn ŵyl arbennig ar gyfer hybu’r iaith ac i ddathlu’n Cymreictod, ac mae’n fraint cael llwyfan yn yr ŵyl i rannu gwaith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe."

Noddir llwyfan Llais gan Academi Hywel Teifi.

Gwyliwch ein sesiynau isod.

Dathliad o gelfyddydau a diwylliant Cymreig

Logo Tafwyl ar gefndir porffor

Yr Actor a'i Stori: Sgwrs rhwng Andrew Teilo a'r Athro Tudur Hallam

Yn y sesiwn Yr Actor a'i Stori roedd yr actor Andrew Teilo yn sgwrsio a’i diwtor, y Prifardd Tudur Hallam, gan drafod ei awydd i awdura a'r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion ar gyfer ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Bu Andrew Teilo’n trafod ei daith greadigol i fyd y stori fer, a’n cyflwyno i ambell gymeriad a stori newydd.  

Hanes Cymry: Sgwrs rhwng Dr. Gwennan Higham a Dr. Simon Brooks

Yn y sesiwn Hanes Cymry, bu Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe yn cyflwyno ei gyfrol newydd Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin 2021. Roedd Simon Brooks yn trafod hanes yr iaith Gymraeg fel iaith amlethnig o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw gan ystyried hanes y Roma Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. Cafodd ei holi gan yr arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe.