Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Celf o'r Eisteddfod Genedlaethol

Academi Hywel Teifi sy'n cynrychioli'r Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Pob blwyddyn mae Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol. Rheolir cyfraniad y Brifysgol at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi gan gryfhau enw'r Brifysgol fel sefydliad dwyieithog yng Nghymru. 

Mae Academi Hywel Teifi yn trefnu presenoldeb y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ynghyd â digwyddiadau cenedlaethol eraill, gan arddangos ymchwil ac arbenigedd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe.

Yn flynyddol, rydym yn cynnal digwyddiad ar y maes ar gyfer staff, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol gyda staff arweiniol y Brifysgol yn annerch y derbyniad. Yn ogystal â staff, mae cyfeillion blaenllaw eraill yr Academi fel Huw Edwards, Beti George, Jason Mohammad a Heini Gruffudd wedi ymuno yn ein dathliad blynyddol. 

Hanes partneriaeth Prifysgol Abertawe gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Lansiwyd Academi Hywel Teifi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010 gan Huw Edwards ym mhresenoldeb y Gweinidog Addysg Leighton Andrews AC a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC gan ddenu cyhoeddusrwydd helaeth. Sefydlwyd Darlith Goffa Hywel Teifi yn yr Eisteddfod honno a bellach mae wedi dod yn uchafbwynt ar gyfer rhaglen Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod. Academi Hywel Teifi sy’n gyfrifol am drefnu, cydlynu a hyrwyddo y rhaglen honno, yn ogystal â datblygu ac arbrofi gyda’r dulliau o gynnal presenoldeb y Brifysgol ar y Maes. Darllenwch fwy am Ddarlith Goffa Hywel Teifi yma

Yn 2015 wedi cais llwyddiannus i ddarparu sesiwn yn y Lolfa Lên, sefydlwyd partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru ac fe noddwyd y pafiliwn llenyddiaeth boblogaidd ac arloesol hwn gan yr Academi a roddodd gofod hyrwyddo a llwyfan beunyddiol i staff a phrosiectau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Ar drothwy blwyddyn ei chanmlwyddiant yn 2019, roedd Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn noddi’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan gwmpasu cyfnod dathliadau ei chanmlwyddiant. Y Babell Lên yw un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr Ŵyl. Mae’r Academi’n cyfrannu at y rhaglen fywiog flynyddol o ddarlithoedd, paneli trafod a sgyrsiau a gaiff eu cynnal yn y babell ac mae’n gyfle arbennig i dynnu ar waith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe. 

 

Eisteddfodau AmGen

Er y bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2020 ac eto yn 2021 yn sgîl y pandemig, roedd Academi Hywel Teifi yn falch iawn o fedru cyfrannu sesiynau amrywiol i arlwy arlein Gŵyl AmGen yr Eisteddfod. 

Bu Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau amrywiol ac amserol ym mhebyll rhithwir y Cymdeithasau, y Babell Wyddoniaeth, Lle Hanes, Theatr y Maes a’r Babell Lên gan adlewyrchu ystod arbenigedd yr academyddion cyfrwng Cymraeg sydd ar staff Prifysgol Abertawe a'r myfyrwyr disglair sydd gennym.

Cliciwch ar y dolenni isod i wylio'r sesiynau yn Eisteddfod Amgen 2020 a 2021.

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 | Conwy County National Eisteddfod 2019

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016