Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan y Brifysgol, mae:

Yn ogystal â digwyddiadau’r Babell Lên, cynhelir derbyniad arbennig i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol yng nghwmni’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor, a’r Athro Jean Thomas, Canghellor, ym mwyty Platiad am 12pm ddydd Mercher 3 Awst.  

Bydd cyfle hefyd i weld staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn serennu mewn sesiynau eraill ar hyd y Maes drwy gydol yr wythnos.

Dydd Sul, Gorffennaf 31, 2.15pm - Ffeministiaeth a Barddoniaeth gyda Grug Muse yn y Babell Lên

Dydd Mawrth, Awst 2, 12.15pm - Lansiad llyfr 'Llunio Hanes' gyda Dr Gethin Matthews, Dr Meilyr Powel a Marion Löffler ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dydd Mawrth, Awst 2, 2pm - Darlith Flynyddol y Cymmrodorion - Dylan Thomas a W.D.Davies gyda'r Athro Daniel Williams a'r Athro Prys Morgan

Dydd Mercher, Awst 3, 1pm - Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig yn y diwylliant Cymraeg gyda Dr Simon Brooks yn y Babell Lên

Dydd Iau, Awst 4, 12.30pm - Kitchener Davies: O Dregaron i Drealaw gyda'r Athro M Wyn Thomas yn Cymdeithasau 2

Dydd Sadwrn, Awst 6, 4.30pm - Cerddi GwyrddNi gyda Grug Muse yn y Babell Lên

Trwy'r wythnos - Ysbyty Tedi ac adnoddau eraill yr Ysgol Feddygaeth ar stondin Bwrdd Iechyd Hywel Dda.  

Trwy'r wythnos - Stondin Technocamps a sioe/twrnament yn y Lloeren bob dydd am 2pm

Ar ddydd Gwener 5 Awst, mi fydd Syr Robin Williams, cyn-Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth. Cyflwynir y Fedal mewn seremoni arbennig yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 2pm.

Porwch amserlenni’r Eisteddfod.

 

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022