Mae'r ddarlith yn uchafbwynt ar gyfer rhaglen y Brifysgol yn yr Eisteddfod

Yr Athro Gwynedd Parry yn traddodi'r ddarlith yn 2019

Darlith flynyddol Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Lansiwyd darlith goffa flynyddol gan Brifysgol Abertawe i gofio y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010.  Traddodwyd y ddarlith honno gan yr hanesydd, Athro Geraint H Jenkins, gan sôn am hanes Gorsedd y Beirdd.

Mae'r ddarlith flynyddol wedi dod yn uchafbwynt ar gyfer rhaglen Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod. Academi Hywel Teifi sy’n gyfrifol am drefnu, cydlynu a hyrwyddo'r ddarlith yn y Babell Lên.

2023: Cynnau ‘Cannwyll y Byd’?: Lewis Morris a Datblygiad Diwylliant Print yng Nghymru, Dr Eryn White
2022: "Ewyllys Unol Merched yn erbyn Rhyfel", Apel Merched Cymru at Ferched America 1923-24, Catrin Stevens
2021: gohiriwyd
2020: gohiriwyd
2019: 'Helbulon Cyfreithiol Beirdd a Llenorion Dyffryn Conwy', Yr Athro Gwynedd Parry
2018: 'Carwriaeth Mym a Cnon yng Nghaerdydd', Yr Athro Derec Llwyd Morgan 
2017: 'Chwilio am Dir Newydd: Gwrthsafiad yn Oes Hiliaeth a Ffasgaeth', Dr Simon Brooks 
2016: 'O Flaenau Gwent i Abertawe; Dr Thomas Rees (1815-1885) ac argyfwng Cymru Oes Fictoria', Yr Athro Prys Morgan
2015: 'Awdlau Eisteddfodol 1858-2014: Pa un oedd yr orau? Pa un oedd y waelaf?', Yr Athro Peredur Lynch  
2014: 'Ffwrneisiau Awen Gwenallt', Yr Athro Christine James
2013: '"Gobaith fo'n Meistr: rhoed Amser inni'n was"; Waldo Williams, y Cymro cyfan', Yr Athro Mererid Hopwood
2012: 'Cythraul y Canu yn Oes Aur y Corau Mawr', Yr Athro Gareth Williams 
2011: ‘Colli Hywel Teifi - Ymadawiad Arthur’, Yr Athro M. Wynn Thomas 
2010: 'Teyrnfradwriaeth, Gorsedd y Beirdd, a thipyn o fisdimanars', Yr Athro Geraint H Jenkins