Prifysgol Abertawe yn EIsteddfod AmGen 2021

Gwyliwch ein sesiynau rhithwir!

Map o'r maes rhithwir

Mae Prifysgol Abertawe yn noddi'r Babell Lên ac yn cyfrannu sawl sesiwn ar-lein fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen 2021.

Ymhlith digwyddiadau’r wythnos, mae’r Brifysgol, dan arweiniad Academi Hywel Teifi, wedi trefnu sesiynau amrywiol ym mhebyll rhithwir y Cymdeithasau, y Lle Hanes, Theatr y Maes a’r Babell Lên. Bydd y cyfan i'w weld ar wefan yr Eisteddfod, ap AM, S4C, Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw a bydd modd gwylio'r sesiynau ar gais ar YouTube. 

Mwy na Hashtag - Llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021

Dydd Iau, 5 Awst, 11.30am, Pabell y Cymdeithasau

Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, fydd yn arwain trafodaeth gyda rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a Mared Edwards, Llywydd Urdd Gobaith Cymru, am eu syniadau a'u profiadau wrth lunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021, a rannwyd ar draws 59 o wledydd ac mewn 65 o ieithoedd, gan gyrraedd dros 400 miliwn o bobl drwy sylw’r cyfryngau byd-eang. Mae'r neges bwerus ar ran pobl ifanc Cymru yn galw am gydraddoldeb i ferched ar draws y byd a bydd y drafodaeth yn ystyried y darlun rhyngwladol a'r heriau sy'n wynebu merched cyn amlinellu'r camau nesaf y bydd yr Urdd, Prifysgol Abertawe ac eraill yn eu cymryd i gyfrannu at gyrraedd y nod.

Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg

Nos Iau, 5 Awst, 6pm, Y Babell Lên 

Hanes Cymry (Gwasg Prifysgol Cymru) yw'r gyfrol gyntaf i drafod hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg. Hi hefyd yw'r gyfrol gyntaf i drafod y pwnc o safbwynt y traddodiad deallusol Cymraeg. Yn y sesiwn hon, bydd yr awdur, Simon Brooks, yn sgwrsio gyda Daniel Williams. 

Gwlad yr Asyn a The Tempest

Cyfweliad rhwng y dramodydd Dr Wyn Mason a'r Athro Tudur Hallam, dan nawdd Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe

Dydd Gwener, 6 Awst, 11.30am, Theatr y Maes

Bydd Wyn Mason, awdur y ddrama newydd, Gwlad yr Asyn, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, yn trafod sut y mae’r ddrama’n ymateb i The Tempest gan Shakespeare. Fe’i holir gan Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle’r enillodd Wyn radd PhD yn ddiweddar ym maes y ddrama ac ysgrifennu creadigol. Noddir y sesiwn gan Gymdeithas Drama Gymraeg Abertawe.

Ystyr Bywyd Richard Burton

Dydd Sadwrn, 7 Awst, 3.00pm, Y Lle Hanes

Arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol yw un o uchafbwyntiau diwylliannol 2021. Mae Prifysgol Abertawe wedi cydweithio â’r Amgueddfa i greu’r arddangosfa, gan wneud defnydd helaeth o’r papurau a’r dyddiaduron yn Archif Richard Burton. Yn y sesiwn hon bydd rhai o academyddion y Brifysgol – Gwenno Ffrancon, Gethin Matthews a Daniel Williams – yn cael cwmni un arall o enwogion Cwm Afan, Cleif Harpwood, er mwyn archwilio ystyr bywyd Burton. Yn anterth ei enwogrwydd, roedd Burton dan y chwyddwydr drwy’r amser, a’r wasg yn llawn straeon amdano. Bydd y drafodaeth hon yn adeiladu ar ymdrech yr arddangosfa i ddatgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau, a’r Cymro y tu ôl i sglein Hollywood.