Fel prifysgol sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, rydyn ni'n falch i ddathlu ein hanes a diwylliant unigryw. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn ac eleni cynhaliwyd Diwrnod Cymru Day - dathliad o gerddoriaeth, bwyd a diwylliant Cymru ar ddydd Gwener y 4ydd o Fawrth. Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Gymru, edrychwch ar ein taflen wybodaeth ddefnyddiol ar lein.

Gall staff ddysgu rhagor ar ein tudalennau staff ar y fewnrwyd a gall myfyrwyr ddysgu rhagor ar MyUni

Galeri Lluniau a fideo Diwrnod ♥ Cymru 2022

Porwch drwy ein galeri lluniau a gwyliwch fideo sy'n dangos uchafbwyntiau'r diwrnod. 

Diwrnod ❤️ Cymru Day

Stondinau Bwyd Cymreig

Tir a Môr Bakes gyda'u Bara Brith a Phice ar y Maen a Wafflau Tregroes

myfyriwr yn ymweld â'r stondinau

Cerddoriaeth Cymraeg Byw

Band Pres Llareggub, Cymdeithas Gorawl a Chymdeithas Gerddorion Abertawe

myfyrwyr yn canu mewn côr

Cymdeithasau Cymraeg y Myfyrwyr

Roedd myfyrwyr y cymdeithasau Cymraeg ar gael i siarad â staff a myfyrwyr

Criw y cymdeithasau Cymraeg

Atgofion o ddathliadau 2021 a 2020

Beth am hel atgofion o ddathliadau 2021 a 2020. 

Mwynhewch y clip isod o Catrin Harris, sylfaenydd ac arweinyddes Côr Staff Prifysgol Abertawe, yn canu Adre gan Caryl Parry Jones, a recordiwyd ar gyfer dathliadau ar lein y llynedd. 

A gwyliwch fideo o ddathliadau Cawl a Chân 2020 yn Nhŷ Fulton.