Gŵyl y Gelli

Sesiynau Academi Hywel Teifi yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau Prifysgol Abertawe

Yr Athro Alan Llwyd, Dr Aled Eirug a'r Athro Mererid Hopwood ar y llwyfan yng Ngwyl y Gelli

Yn arddangos arbenigedd ysgolheigion cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli, ac am y tro cyntaf yn 2018 roedd Academi Hywel Teifi wedi sicrhau bod digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn cael eu cynnal fel rhan o gyfres y Brifysgol.

Roedd sesiynau Academi Hywel Teifi yn arddangos arbenigedd ysgolheigion cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe – a hynny mewn gŵyl sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Roedd yr Academi'n falch iawn bod partneriaeth gyffrous y Brifysgol gyda Gŵyl y Gelli yn golygu bod modd i fynychwyr yr ŵyl cael profiad Cymraeg yn ystod eu hymweliad, gan glywed agweddau ar hanes, llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn cael eu trafod yn yr iaith.