Trafodaeth i nodi Pen blwydd Emyr Humphreys yn 100 oed

Cynhaliwyd digwyddiad cyfrwng Cymraeg gan Academi Hywel Teifi yng Ngŵyl Lenyddol y Gelli unwaith eto yn 2019 fel rhan o gyfres Prifysgol Abertawe o ddigwyddiadau yn sgil partneriaeth y Brifysgol gyda’r ŵyl enwog.

Ar brynhawn Llun 27 Mai am 2.30yp, roedd trafodaeth arbennig i nodi pen blwydd y llenor Emyr Humphreys yn 100. Yn ystod y sesiwn, roedd yr Athro M. Wynn Thomas, deiliad Cadair Emyr Humphreys yn CREW (Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Iaith Saesneg Cymru) Prifysgol Abertawe, yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton, Prifysgol Abertawe ac un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru, Menna Elfyn, yn trafod bywyd a gwaith y llenor, bardd, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd. Cynhelir y drafodaeth yn y Gymraeg a darperir cyfieithu ar y pryd. 

Meddai’r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae Gŵyl y Gelli yn un o uchafbwyntiau diwylliannol rhyngwladol y flwyddyn. Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn Bartner Addysgol gyda’r Wyl ac rydym yn falch o ddod â rhai o'r goreuon o Abertawe i'r Gelli bob gwanwyn.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: "Roedd hi'n bleser gan Academi Hywel Teifi gynnal sesiwn Gymraeg unwaith eto. Rydym yn falch iawn bod partneriaeth gyffrous y Brifysgol gyda Gŵyl y Gelli yn golygu y bydd modd i fynychwyr yr ŵyl cael profiad Cymraeg yn ystod eu hymweliad.”

Llun : Bernard Mitchell