Academi Hywel Teifi yn cyfrannu sesiynau digidol i Tafwyl 2020

Er gwaetha pandemig Covid-19, roedd partneriaeth Academi Hywel Teifi â Tafwyl wedi parhau wrth i’r ŵyl boblogaidd orfod symud ar-lein. Cafodd holl ddigwyddiadau Tafwyl Digidol eu ffrydio'n fyw ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin, gydag Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau yn ardal rithwir ‘Llais’ yr ŵyl.

Ymunodd dros 10,000 o bobl yn yr hwyl ar y diwrnod ac mae llawer mwy wedi gwylio’r sesiynau nôl ers hynny. Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Roedd Academi Hywel Teifi yn falch iawn o gefnogi gŵyl ddigidol Tafwyl gan gyfrannu sesiynau yn ardal rithiol Llais yr ŵyl. Dyma'r bumed flwyddyn o'r bron i ni weithio mewn partneriaeth gyda’r ŵyl arbennig hon er mwyn hybu’r iaith ac i rannu gwaith ac arbenigedd llenorion, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe."

Gwyliwch ein sesiynau isod.

Logo Tafwyl Digidol 2020

Tu hwnt i'r Terfyn

Yn Tu hwnt i'r Terfyn, bu’r anturiaethwr a’r athletwr wltra Lowri Morgan yn sgwrsio am ei chyfrol hunangofiannol newydd, Beyond Limits, yng nghwmni Beti George. Yn ystod y sgwrs esboniodd Lowri, sy’n gymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, beth sydd wedi ei hysbrydoli a sut mae hi wedi medru meithrin ei chryfder a'i gwydnwch i wynebu rhai o amgylchfydoedd anoddaf y byd a sut gwthiodd ei meddwl a'i chorff trwy'r poen a'i disgwyliadau ei hun.

Stomp y Ganrif

Arweiniodd yr Athro Brifardd Tudur Hallam yn arwain Stomp y Ganrif - stomp arbennig i ddathlu canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020, gyda myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg yn cystadlu am stôl y Stomp. Yn eu plith roedd y canwr Huw Chiswell a raddiodd yn 1982; Aneirin Karadog a gwblhaodd ei PhD yn gynharach eleni; y llenor a’r darlledwr Gwennan Evans; yr actor Andrew Teilo sy’n dilyn MA Ysgrifennu Creadigol; Laura Hughes sy’n graddio yn y Gymraeg eleni, yr actor Matthew Tucker sy’n cwblhau MA a Nerys Bowen sy’n fyfyriwr PhD.