Ysgoloriaeth newydd i goffáu cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards
Mae Academi Hywel Teifi wedi lansio apêl er mwyn sefydlu ysgoloriaeth newydd er cof am Hywel Teifi Edwards.
Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi fydd cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi i ddysg a diwylliant Cymru - yn benodol ym meysydd:
- Hanes
- Llenyddiaeth
- Cymraeg
- Gwleidyddiaeth
- Y cyfryngau
- Drama
- Crefydd
- Astudiaethau Diwylliannol
I wneud cais am yr ysgoloriaeth, anfonwch lythyr cais, CV ac amlinelliad o'ch maes ymchwil at Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, erbyn 30 Mehefin 2023. Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau eich cais.
Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais am PhD, MPhil neu MRes i ddechrau rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024. Nid yw graddau Meistr a Addysgir yn gymwys. Cynigir yr ysgoloriaeth hon bob yn ail flwyddyn.
Gallwch lawrlwytho taflen Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi am fanylion neu lenwi'r ffurflen arlein isod i gyfrannu.