Hoffet ti ddysgu Cymraeg tra'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe

Os ydych chi eisiau dysgu neu wella eich Cymraeg, fe allwn ni helpu. Gyda nifer o gyrsiau ledled yr ardal, byddwn yn sicr i ddod o hyd i rywbeth sy'n addas i chi.

Gallwch chwilio am gyrsiau yma neu cysylltwch â'n swyddfa i gael cyngor. 

Mae cyrsiau newydd, rhad ac am ddim, yn dechrau ar gyfer pobl 18-25 oed cyn bo hir hefyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael i chi yma.

Mae gan fyfyrwyr llawn amser hawl i ostyngiad o 40% wrth gofrestru ar gwrs - defnyddiwch y côd MYF23 wrth gofrestru (bydd angen dangos prawf ar ofyn).

Bydd cyfleoedd hefyd i gwrdd â dysgwyr eraill mewn sesiynau Sadwrn Siarad, cyrsiau bloc, boreau coffi, clybiau darllen a llawer mwy.

Danfonwch ebost atom i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'ch hastudiaethau academaidd.

Gallwch hefyd alw mewn i’r swyddfa ar lawr gwaelod Adeilad Talbot, Campws Singleton i gwrdd â'n staff a thrafod y gwahanol gyfleoedd i ddysgu neu ddefnyddio eich Cymraeg.