Mae ceisiadau am fenthyciadau meistr a PhD ar gyfer Myfyrwyr o Gymru a Lloegr NAWR ar agor!
Mae Student Finance England yn darparu benthyciadau ôl-raddedig i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr a fydd yn dechrau cwrs meistr mewn unrhyw brifysgol yn y DU (gan gynnwys Abertawe) o fis Medi 2023.
Gallech fenthyca hyd at £12,167 tuag at gostau astudio am gymhwyster ôl-raddedig, gan gynnwys ffioedd dysgu a chostau byw (sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i chi).
Cymhwysedd Preswylio
Gallwch dderbyn Benthyciad i astudio am Radd Meistr Ôl-raddedig os ydych yn bodloni'r holl amodau canlynol:
- rydych yn ddinesydd y DU neu'r UE (statws preswylydd sefydlog neu breswylydd cyn-sefydlog), neu mae gennych 'statws sefydlog' sy'n golygu nad oes cyfyngiadau ar faint o amser y gallwch aros
- rydych yn byw yn Lloegr fel arfer, a heb fod wedi symud yno at ddiben astudio yn unig
- rydych wedi bod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am dair blynedd cyn dechrau eich cwrs
Eich Cwrs
Mae'n rhaid ei fod:
- yn gwrs meistr (nid cwrs atodol)
- yn werth o leiaf 180 o gredydau - holwch ein tîm Derbyn os nad ydych yn siŵr
- wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2016
Gall eich cwrs fod wedi'i addysgu neu ar sail ymchwil.
Gall fod:
- yn amser llawn, am un neu ddwy flynedd academaidd
- yn rhan-amser, am ddwy i bedair blynedd academaidd - ni ddylai fod yn fwy na dwywaith hyd y cwrs amser llawn cyfatebol
- yn rhan-amser, am hyd at dair blynedd, lle nad oes cwrs amser llawn cyfatebol ar gael
Mae enghreifftiau o gymwysterau meistr ôl-raddedig cymwys yn Abertawe'n cynnwys:
- MSc (meistr yn y gwyddorau)
- MA (meistr yn y celfyddydau)
- MPhil (meistr mewn athroniaeth)
- MRes (meistr mewn ymchwil)
- LLM (meistr yn y gyfraith)
Ni fyddwch yn gallu derbyn Benthyciad Meistr Ôl-raddedig i astudio am dystysgrif neu ddiploma ôl-raddedig.
Os ydych yn bwriadu astudio am ddoethuriaeth gyda chymorth benthyciad PhD ar ôl eich gradd meistr, rhaid bod eich cwrs yn rhaglen PhD gyflawn, a heb gynnwys elfen 'atodol' o gymhwyster meistr, megis Meistr drwy Ymchwil neu MPhil.
Eich oedran
Rhaid eich bod yn iau na 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Cyfyngiadau
Ni fyddwch yn gallu derbyn Benthyciad Meistr Ôl-raddedig yn yr amgylchiadau canlynol:
- rydych eisoes yn derbyn taliadau gan Gyllid Myfyrwyr ar gyfer astudio ar gwrs arall
- rydych wedi derbyn Benthyciad Meistr Ôl-raddedig o'r blaen - oni bai i chi adael eich cwrs oherwydd salwch, profedigaeth neu reswm personol difrifol arall
- rydych eisoes wedi ennill gradd meistr, neu gymhwyster cyfwerth neu uwch
- mae gennych ôl-ddyledion o fenthyciadau blaenorol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Byddwch yn gymwys hyd yn oed os oes gennych TAR neu ddiploma neu dystysgrif ôl-raddedig. Ni fyddwch yn cael arian ychwanegol os ydych yn ail-wneud blwyddyn o'ch cwrs.
Ad-daliadau
- Byddwch yn dechrau ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn. Bydd ad-daliadau'n seiliedig ar 6% o'ch incwm dros y trothwy hwn (mae ad-daliadau benthyciadau israddedig yn seiliedig ar 9% o incwm).
- Os oes gennych fenthyciad israddedig gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, byddwch yn ei ad-dalu ar yr un pryd â'r benthyciad ôl-raddedig.
Ewch i Student Finance England am ragor o wybodaeth. Gallwch chi hefyd ddysgu mwy am y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig drwy fynychu un o’n Diwrnodau Agored i Ôl-raddedigion.