Dysgwch sgiliau newydd mewn ffug lys yn Abertawe

Beth yw dadlau mewn ffug lys barn?

Cyflwyno problem gyfreithiol ar lafar yn erbyn cwnsel gwrthwynebus ac o flaen barnwr yw dadlau mewn ffug lys barn. Mwy na thebyg, dadlau mewn ffug lys barn fydd y profiad agosaf y byddwch yn ei gael yn y Brifysgol i ymddangos mewn llys.

Beth yw cystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn?

Mae cystadlaethau dadlau mewn ffug lys barn fel arfer yn efelychu achos llys. Rhoddir problem i gyfranogwyr ei dadansoddi. Bydd angen iddynt wneud ymchwil i'r gyfraith berthnasol, ac yna paratoi cyflwyniadau ysgrifenedig, a gyflwynir fel dadl ar lafar.

Dadlau mewn ffug lys barn yn Ysgol y Gyfraith

Mae gennym amrywiaeth gynyddol o gyfleoedd dysgu drwy brofiad manwl yma yn Ysgol y Gyfraith. Techneg dysgu ymarferol yw dysgu drwy brofiad, sy'n eich galluogi chi i roi damcaniaeth ar waith a dysgu sgiliau amhrisiadwy a fydd yn ddefnyddiol am byth yn eich gyrfa yn y dyfodol. Mae dadlau mewn ffug lys barn yn rhan allweddol o'n cyfres o ddulliau dysgu drwy brofiad, a bydd yn eich helpu chi i fagu eich hyder, gwella eich sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymchwil, a gall eich helpu i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd.

Mae ein myfyrwyr wedi cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau, ac wedi mwynhau llwyddiannau mewn sawl un ohonynt. Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am ein straeon llwyddiant, a'r cyfleoedd dadlau mewn ffug lys barn sydd ar gael i chi yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Straeon Llwyddiant Myfyrwyr