Rhaglenni ymchwil ôl-raddedig

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn gartref i gymuned gyfeillgar a ffyniannus o fyfyrwyr doethurol o bob cwr o'r byd. Fel myfyriwr PhD neu MPhil, byddwch yn cael eich cefnogi gan staff academaidd, cewch gyfle i gymryd rhan ym mhrosiectau ymchwil yr Ysgol a chewch ddefnyddio ein hystafell astudio sydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn unig.

Mae ymgymryd â PhD neu MPhil yn golygu dewis maes ymchwil penodol i'w astudio am nifer o flynyddoedd. Rydym yma i helpu - o deilwra'ch syniad gwreiddiol i ddatblygu'ch sgiliau ymchwil. Cliciwch ar fotymau'r pynciau i weld enghreifftiau o'r pynciau y gallwch eu hastudio a chanllawiau ar ymgeisio.