Ein hymchwil yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn amgylchedd ymchwil deinamig ac amrywiol, gan ddod ag ysgolheigion o ystod eang o feysydd pwnc arbenigol a chefnodiroedd academaidd ynghyd. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar dri phrif faes: Cyfraith Fasnachol a Morwrol, Llywodraethu a Hawliau Dynol a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Mae ein hymchwilwyr yn mynd i’r afael â heriau cyfoes a rhai’r dyfodol sy’n wynebu’r economi, cymdeithas a’r amgylchedd.

Mae ein gwaith yn amrywio o safbwyntiau byd-eang i faterion sy’n benodol i Gymru a’r cysylltiadau niferus rhyngddynt. Rydym yn gweithio ar y cyd a chydag ystod o unigolion mewn sefydliadau academaidd a sefydliadau llywodraeth, rhynglywodraethol ac anlywodraethol. Caiff ein hymchwil ei hwyluso gan y grwpiau a’r canolfannau ymchwil canlynol:

YMCHWIL SY'N GWNEUD GWAHANIAETH I GYMDEITHAS

Mae ymchwil yng Ngholeg y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn cysylltu damcaniaeth academaidd â chymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn, gan roi'r sgiliau a'r profiad i fyfyrwyr a staff ddeall y dirwedd gyfreithiol newidiol ac i oresgyn heriau cyfoes.