Digwyddiadau Ymchwil Ymchwil Ôl-raddedig

Cynhelir llawer o ddigwyddiadau gan fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith ac ar eu cyfer: Gan gynnwys y gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n annog rhannu syniadau a barn drwy gyflwyno ymchwil pob myfyriwr ar ffurf cynhadledd; A’r digwyddiad Thesis Tair Munud (3MT) a arweinir gan y Brifysgol ac sy’n cyfrannu at y gystadleuaeth 3MT genedlaethol.

Yn ogystal â digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar academia, mae llawer o ddyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy’n ymroddedig i “lais y myfyriwr”, gan sicrhau bod ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn chwarae rôl weithgar ym mywyd Ysgol y Gyfraith, ac mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol a chydweithio, gan ddatblygu ymdeimlad o gymuned yn Ysgol y Gyfraith.

THESIS TAIR MUNUD - CHERRY CHEN

THESIS TAIR MUNUD – JOE JANES

DIGWYDDIADAU CYMDEITHASOL

Drwy gydol y flwyddyn, mae gan ein myfyrwyr ôl-raddedig galendr sy’n llawn digwyddiadau cydweithredol a chymdeithasol, gan gynnwys:

  • Grŵp ysgrifennu wythnosol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
  • Digwyddiadau “Cwrdd a Chyfarch” rheolaidd sy’n annog cydweithio
  • Bord Gron Diamddiffynedd, lle caiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eu hannog i gyflwyno eu hymchwil
  • Grŵp Trafod y Gyfraith Gyhoeddus
  • Grŵp Trafod Seminar Seibr-ymchwil
  • Grŵp darllen sy’n gysylltiedig ag Arsyllfa Hawliau Dynol Plant
  • Amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, sydd wedi’u hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol

Llais Myfyrwyr

Llais Myfyrwyr