Croeso i Gyfraith Stryd ym Mhrifysgol Abertawe!

Mae Cyfraith Stryd yn rhaglen addysg gyfreithiol am ddim ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae'n grymuso pobl drwy roi gwybod iddynt am y gyfraith, systemau cyfreithiol, a hawliau dynol drwy sesiynau rhyngweithiol a hwyl.

Sefydlwyd Street Law Inc. yn wreiddiol ym 1972, ym Mhrifysgol Georgetown, gan grŵp o bedwar myfyriwr, darlithydd, a heddwas. Daeth Cyfraith Stryd i'r amlwg yn y Deyrnas Unedig pan sefydlodd Prifysgol Derby gynllun peilot yn y flwyddyn 2000. Lansiodd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton fodiwl Cyfraith Stryd yn 2017 ac ar ôl saib am ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid 19, dychwelodd Cyfraith Stryd ar ffurf prosiect gwirfoddol yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe yn 2022-23. Darllenwch y Diweddariad am Gyfraith Stryd 2022.

 

BUDDION MYFYRWYR

Cefnogir myfyrwyr i wneud ymchwil cyfreithiol ar angen cyfreithiol cymunedol. Maen nhw hefyd yn datblygu ac yn cynnal sesiynau hygyrch ar bynciau cyfreithiol yn ymwneud â hawliau dynol.

Manteision i fyfyrwyr:

  • Sgiliau a hyder wrth gyfleu meysydd cymhleth y gyfraith mewn ffyrdd hygyrch
  • Deall pam mae'r gyfraith weithiau yn cael ei hystyried mewn ffordd negyddol, a'r rhwystrau i fynediad i gyfiawnder
  • Datblygu strategaethau i herio canfyddiadau negyddol o'r gyfraith a hawliau dynol
  • Arfer a gwella sgiliau rhyngbersonol, sgiliau cyfreithwyr, a galluoedd darparu gwasanaethau

BUDDION CYMDEITHASOL

Mae Cyfraith Stryd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol am ddim ar gyfer y gymuned leol, ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cleientiaid a chymunedau.

Manteision cymdeithasol:

  • Gwybodaeth am y pwnc a'r gyfraith, systemau cyfreithiol a mynediad i gyfiawnder
  • Dinasyddion mwy gwybodus, a gall hynny arwain at rolau mwy gweithredol yn y broses ddemocrataidd
  • Dealltwriaeth o Brifysgol Abertawe, addysg gyfreithiol, a sut i gael mynediad iddi
Street Law Students
Street Law Staff